Mae’r mewnwr Rhys Webb wedi gwella o anaf i’w goes ar drothwy gêm y Gweilch yn erbyn Clermont Auvergne yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop heddiw (5.30pm).

Ac mae Justin Tipuric a Dan Baker yn dychwelyd i’r rheng ôl wrth i’r Gweilch wneud pum newid i’r tîm a gollodd o 18-19 yn erbyn y Scarlets yn y PRO14 wythnos yn ôl.

Mae lle ymhlith y pymtheg i Dmitri Arhip, Keelan Giles ac Owen Watkin, a lle ar y fainc i James Hook a Sam Davies.

Y Ffrancwyr

Ond mae’r Ffrancwyr wedi teithio i Gymru heb Nick Abendanon a Wesley Fofana.

Mae Alivereti Raka yn dychwelyd ar ôl anaf.

Mae’r triawd yn y rheng flaen wedi newid o’r fuddugoliaeth dros Toulouse, wrth i Rabah Slimani, Benjamin Kayser a Raphael Chaume ddechrau.

Ac fe fydd y mewnwr Morgan Parra yn chwarae yn ei 200fed gêm i’r clwb.

Y Gweilch: D Evans, K Giles, K Fonotia, O Watkin, C Allen, D Biggar, R Webb; N Smith, S Otten, D Arhip, B Davies, A W Jones (capten), D Lydiate, J Tipuric, D Baker.

Eilyddion: S Parry, P James, M Fia, L Ashley, O Cracknell, T Habberfield, S Davies, J Hook

Clermont Auvergne: S Spedding, D Strettle, D Penaud, R Lamerat, A Raka, C Lopez, M Parra (capten); R Chaume, B Kayser, R Slimani, P Jedrasiak, S Vahaamahina, J Cancoriet, A Lapandry, F Lee

Eilyddion: Y Beheregaray, E Falgoux, A Jarvis, S Timani, P Yato, G Laidlaw, P Fernandez, P Betham.