Gavin Henson yw maswr y Dreigiau.
Mae’r gyntaf o ddwy ddarbi Gymreig Cynghrair y Pro14 y penwythnos yn cael ei chynnal heno ym Mharc yr Arfau.

Bydd Gavin Henson yn safle’r maswr i’r Dreigiau wrth iddo wynebu ei hen dîm, Gleision Caerdydd.

Y mewnwr rhyngwladol Lloyd Williams fydd yn arwain y Gleision wrth iddo ddychwelyd yn un o saith newid i’r tîm.

O ran y Gleision, daw Kristian Dacey i safle’r rheng flaen a Damian Welch a Seb Davies i mewn i’r ail reng yn lle James Down a George Earle. Mae Josh Navidi yn dychwelyd i’r rheng ôl yn lle Josh Turnbull, wrth i’r Gleision ymdrechu i ennill eu gêm gartref gyntaf y tymor hwn.

Efallai y bydd yn rhaid i’r Dreigiau, sydd wedi cael cychwyn gwell na’r disgwyl i’r tymor dan arweinyddiaeth y Gwyddel Bernard Jackman, wneud heb Hallam Amos. Bydd yr asgellwr rhyngwladol yn cael prawf ffitrwydd hwyr wrth iddo “ymgodymu” â phroblem gyda’i ben-glin.

Gleision v Dreigiau heno am 7.35 gyda’r gêm yn fyw ar BBC 2.

Gleision Caerdydd: Rhun Williams; Alex Cuthbert, Rey Lee-Lo, Willis Halaholo, Tom James; Jarrod Evans, Lloyd Williams (capten); Brad Thyer, Kristian Dacey, Taufa’ao Filise, Seb Davies, Damian Welch, Josh Navidi, Olly Robinson, Nick Williams.

Ar y Fainc: Matthew Rees, Corey Domachowski, Keiron Assiratti, James Down, Josh Turnbull, Tomos Williams, Steven Shingler, Matthew Morgan.

Dreigiau: Hallam Amos; Ashton Hewitt, Tyler Morgan, Jack Dixon, Jared Rosser, Gavin Henson, Sarel Pretorius; Brok Harris, Elliot Dee, Leon Brown, Matthew Screech, Cory Hill (capten), James Thomas, Ollie Griffiths, James Benjamin.

Ar y Fainc: Liam Belcher, Luke Garrett, Lloyd Fairbrother, Joe Davies, Aaron Wainwright, Owain Leonard, Angus O’Brien, Will Talbot-Davies.

Dyfarnwr: Nigel Owens (Cymru)