Ar drothwy’r ornest fawr rhwng y Cymry a’r Gwyddelod yng Nghaerdydd nos Lun, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod y ddwy wlad wedi cael tros filiwn o ewros gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer “menter newydd i ehangu rôl clybiau pêl-droed”.
Y gobaith yw defnyddio’r arian “i elwa ar boblogrwydd pêl-droed drwy droi clybiau lleol yn fentrau cymdeithasol sy’n cyflwyno amrywiaeth o raglenni addysgol a gwyddorau bywyd sydd wedi’u seilio ar chwaraeon”, yn ôl y Llywodraeth.
Bydd y fenter ‘Mwy na Chlwb’ yn cael ei pheilota dros y ddwy flynedd nesaf gan bedwar clwb yng Nghymru ac Iwerddon, gan gynnwys Hwlffordd, Cork City a Bohemian FC.
Cefnogir y prosiect gan Raglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd Iwerddon Cymru 2014-2020, sy’n ceisio cryfhau cydweithredu rhwng Cymru ac Iwerddon “i fynd i’r afael â heriau economaidd a chymdeithasol sy’n gyffredin rhyngddyn nhw”.
‘Ffordd greadigol o wella iechyd’
“Mae hon yn ffordd greadigol iawn o fynd ati i wella iechyd a lles mewn cymunedau lleol, a bydd yn elwa’n fawr iawn ar y syniadau, yr arbenigedd a’r adnoddau a fydd yn cael eu rhannu ar draws Môr Iwerddon,” meddai Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru.
Meddai Paschal Donohoe TD, y Gweinidog Cyllid Llywodraeth Iwerddon: “Mae prosiect ‘Mwy na Chlwb’ yn enghraifft o fanteision ein partneriaeth barhaus drwy raglen Cymru-Iwerddon.
“Bydd cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn galluogi’r prosiect hwn i elwa ar arbenigedd sefydliadau yn y ddwy wlad er mwyn cael pobl ifanc i ymgysylltu â menter gymdeithasol drwy bêl-droed.
“Mae Llywodraeth Iwerddon yn gefnogol dros ben i effaith gadarnhaol y cydweithrediad parhaus o dan raglen Cymru-Iwerddon ac rydym yn dal i fod wedi ymroi i’w weithredu’n llwyddiannus.”