Russell Williams a'i gyd-gefnogwyr yn y gêm rhwng Cymru a Georgia yn 1994
Mae dros 1,500 o gefnogwyr Cymru yn heidio i Tbilisi i wylio gêm ragbrofol Cwpan y Byd Rwsia 2018 y crysau cochion yn erbyn Georgia fory (dydd Gwener, Hydref 6).

Ym mis Tachwedd 1994, dim ond 11 o gefnogwyr fentrodd wneud y daith. Doedd yna ddim ffasiwn beth â ‘Wal Goch’, a dyddiau du oeddan nhw ar ôl y siom o beidio mynd drwodd i Gwpan y Byd yr Unol Daleithiau yn 1992.

Un o’r  11 hynny oedd Russell Williams, sy’n hanu o Gaernarfon.

“Mi wnes hedfan yna ar awyren Gymdeithas Pêl-droed Cymru efo’r  tîm a’r swyddogion. Hedfan o Stansted ger Llundain, ac mi oedd yn dipyn o siwrne gyda thrafferth i stopio am danwydd ar y ffordd yna,” meddai Russell Williams wrth golwg360.

“Dw i’n siŵr bod rhyw bryder hefyd am y lefel o yswiriant oedd mewn lle. Mi wnaethon ni gyrraedd Tbilisi yn hwyr yn y nos a thipyn hwyrach na’r bwriad. Tua £450 oedd y gost am y trip yn cynnwys gwesty ar awyren.”

Tanciau ar y stryd

“Mi oedd Georgia ar y pryd yn war-zone efo tanciau’r Cenhedloedd Unedig i’w gweld ar y strydoedd a thu allan i’r gwesty,” meddai Russell Williams wedyn.

“Doedd yna ddim llawer iawn o fwrlwm yn y ddinas oherwydd hynny. Mi oedd ôl rhyfel ar y ddinas, a dw i’n siŵr y bydd yn ddinas wahanol iawn i’r Cymry aiff yno am y gêm y tro hwn.

“Yr unig le am ddiod hwyr yn 1994 oedd y casino,” meddai. “Mi gollodd un person anlwcus fwy nag arian un noson,  achos mi gafodd o ei saethu tra’r oeddan ni yno.

“Dw i’n cofio mai doleri oedd yr arian lleol, oherwydd bod eu harian cenedlaethol nhw wedi colli ei werth yn llwyr ac yn hollol ddiwerth.

“Mi wnes i newid be o’n i’n feddwl fasa’n ddigon o arian ar gyfer y trip, ond mi ddois â’r rhan fwyaf o’r arian yn ôl adra efo fi.”

Croeso yn y dafarn ac ar aelwyd

“Yn y rhan fwya’ o’r tai tafarnau, oedd y bobol leol yn prynu diod (fodca) i ni, ond mi oedd hi’n rhad iawn yna,” meddai Russell Williams wedyn.

“Ar yr adeg honno, doedd dim llawer o bobol yn trafeilio i mewn i’r wlad, felly roedd gan y bobol leol dipyn o ddiddordeb ynon ni.

“Mi gawson groeso ym mob tafarn ac yn y stadiwm. Trwy gamgymeriad, mi wnaethon ni gerdded i mewn i dŷ yng nghanol y ddinas.

“Ymateb y trigolion oedd ein gwahodd ni i mewn, cael potel fodca allan, a dangos lluniau o’u gwylia a’u teulu i ni. Mi oeddan ni yn y tŷ am oriau!

“Mi gawsom hefyd profiad o’r ochor arall pan fu i ddyn hefo gwn ein cadw yn yr ystafell yn y gwesty am ychydig o oriau heb i neb ddeall yn iawn be oedd yn mynd ymlaen,” meddai Russell Williams.

“Ar ôl dipyn, mi oedd hi’n glir ei fod o’n ‘cadw llygaid’ arnon ni oherwydd bod Prif Weinidog Twrci yn y gwesty, a doeddan nhw ddim am i’r Cymry ei gyfarfod.”

Perfformiad siomedig 1994

Roedd Cymru wedi colli i Moldofa ym mis Mehefin 1994, ac roedd yn dipyn o sioc, felly roedd pawb yn  gobeithio am ymateb positif yn Georgia. Ond siom arall oedd ar y gorwel i’r cefnogwyr wedi i’r tim cenedlaethol gael eu sgwrio 5-0 yn Tbilisi…

“Ar ôl dod mor agos i fynd i Gwpan y Byd America roedd y ddwy golled ym Moldofa a Georgia yn anodd eu derbyn,” meddai Russell Williams.

“Perfformiad siomedig iawn oedd hwnnw yn Tiblisi, a rhywbeth nad oedd neb yn ei ddisgwyl. 

“Roedd Ian Rush, Mark Hughes a Dean Saunders yn y tîm, ac mi ddylsa bod tîm Mike Smith – y rheolwr ar y pryd – wedi gwneud yn well.

“Ar ôl y gêm, mi wnaethon ni rywsut gael ein hunain yn ystafell bwyllgor Cymdeithas Bêl-droed Georgia lle’r oedd cyfarfod yn digwydd.

“Eu hymateb oedd cynnig i ni eistedd,  rhoi potel o fodca i ni, a diolch i ni am ymweld â’u gwlad. Dw i’n cofio’r stadiwm yn llawn o filwyr, awyrgylch da, a thorf fawr. Mi sgoriodd Kinkladze yn ein herbyn ni, ac aeth ymlaen i chwarae i Man City a bod yn chwaraewr o safon.

“Yn yr ymgyrch honno, mi deithiais i i Fwlgaria, yr Almaen ac  i Albania. Mi gawson ni ganlyniad da yn yr Almaen – gêm gyfartal 1-1 – ond fel arall, ymgyrch i’w hanghofio oedd hi. Mi orffennodd Cymru ar waelod y grwp.”

 

Tensiwn rhwng cefnogwyr

Er nad oedd nifer yn teithio i wylio Cymru yn y cyfnod hwn, roedd tensiwn rhwng cefnogwyr Caerdydd ac Abertawe, roedd Russell Williams yn cefnogi Abertawe, ac roedd hynny’n gallu bod yn broblem yn enwedig pe bai’n gêm lle’r oedd cannoedd neu filoedd wedi teithio.

“Roedd yna elfen siomedig o gefnogi Cymru’r adeg honno. Mae wedi gwella dyddiau yma, fel y gwelsom yn Ffrainc.

“Am amryw o resymau, wnes i ddisgyn allan o’r arfer o fynd, ond mi es drosodd i Ffrainc haf diwethaf ac roeddwn wrth fy modd i weld cefnogwyr roedd wedi bod yno pan roedden yn dîm sâl yn mwynhau’r achlysur.

“Y dyddiau hyn, mae’r peth wedi’i droi ar i ben efo sylw mawr i’r tîm. Yn y cyfnod siomedig yna o ganlyniadau doedd yna ddim disgwyl llyddiant gan y cefnogwyr, pwrpas y trafeilio oedd cael hwyl ac antur!”