Fe fydd prif hyfforddwr rhanbarth y Gleision, Danny Wilson yn gadael ei swydd ar ddiwedd y tymor ar ôl gwrthod cytundeb newydd.
Mae’r rhanbarth eisoes wedi dechrau chwilio am ei olynydd.
Dywedodd prif weithredwr y rhanbarth, Richard Holland ei fod e “wedi siomi” fod Danny Wilson wedi penderfynu peidio ag aros.
“Byddwn ni’n dechrau’r broses o ddod o hyd i olynydd ar unwaith, ac yn ymgynghori ag unigolion allweddol er mwyn sicrhau ein bod ni’n gwneud y penodiad cywir i Gleision Caerdydd.”
‘Penderfyniad anodd’
Mae Danny Wilson wedi cyfaddef ei fod e’n “benderfyniad anodd iawn”, ond mae’n dweud ei fod e wedi ymroi i sicrhau llwyddiant y tîm tan ddiwedd y tymor.
Dywedodd ei fod yn “ddiolchgar i Gleision Caerdydd am y cyfleoedd maen nhw wedi eu rhoi”.
Bydd y Gleision yn herio Munster ar Barc Thomond ddydd Sadwrn.