Sicrhaodd y Scarlets bwynt bonws neithiwr wrth iddyn nhw drechu’r Zebre yn Parma o 41-10 yn y PRO14.
Ciciodd Rhys Patchell 16 o bwyntiau – pum trosiad a dwy gic gosb – wrth i Johnny McNicholl, Steff Evans, Paul Asquith, Tadhg Beirne ac Aled Davies groesi am geisiau.
Ond yr Eidalwyr aeth ar y blaen, wrth i’r chwaraewr rhyngwladol Carlo Canna gicio cic gosb ar ôl tair munud. Unionodd Rhys Patchell y sgôr yn fuan wedyn.
Ond fe drosodd Rhys Patchell gais Johnny McNicholl i roi’r Cymry ar y blaen unwaith eto, cyn ychwanegu cic gosb ar ôl 27 munud cyn i’w wrthwynebydd fethu cic i’r Eidalwyr.
Y Cymry, felly, oedd ar y blaen o 13-3 erbyn yr egwyl.
Yr ail hanner
Wyth munud yn unig gymerodd hi i’r Scarlets ymestyn eu mantais ar ddechrau’r ail hanner, wrth i Steff Evans gicio a chwrso cyn croesi o dan y pyst, a throsiad Rhys Patchell yn llwyddiannus unwaith eto.
17 munud cyn y diwedd, Paul Asquith gipiodd trydydd cais y Scarlets yn dilyn cic daclus gan Rhys Patchell i ddwylo Johnny McNicholl, cyn i hwnnw basio i’r sgoriwr o flaen y pyst, a’r trosiad yn ei gwneud hi’n 27-3.
Tadhg Beirne oedd y pedwerydd chwaraewr i groesi am gais i’r Scarlets, a throsiad Rhys Patchell yn llwyddo unwaith eto. 34-3, felly, gyda 10 munud yn weddill.
Aled Davies groesodd am y pumed cais yn dilyn cynorthwy Steff Evans, a throsiad Rhys Patchell yn ei gwneud hi’n 41-3.
Ond y Zebre gafodd y gair olaf drwy gais gan Mattia Bellini, a Carlo Canna yn llwyddo gyda’r trosiad i ddod â’r gêm i ben ar 41-10.