Mae’r chwaraewr rygbi, Keelan Giles, wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r Gweilch a fydd yn para hyd nes haf 2020.
Fe ddechreuodd yr asgellwr 19 oed chwarae i’r Gweilch ar ddechrau’r tymor diwethaf pan sgoriodd gais yn ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb yn erbyn Benetton Treviso.
Aeth yn ei flaen wedyn i sgorio 14 o geisiadau mewn 19 o gemau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a bu hefyd yn aelod o garfan Cymru – er nad yw eto wedi ennill ei gap cyntaf.
Blwyddyn fythgofiadwy
Mewn datganiad, dywedodd y cyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Gŵyr ei fod yn “ddiolchgar tu hwnt” i’r Gweilch am ddangos eu “ffydd” ynddo trwy gyflwyno’r cytundeb newydd hwn iddo.
“Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn wych i mi yn bersonol”, meddai, “pe baech chi wedi gofyn i mi yr amser hyn llynedd, bydden i byth wedi dychmygu y byddai’r flwyddyn wedi mynd fel y gwnaeth.”
Bachgen o botesnial
Yn ôl Prif Hyfforddwr y Gweilch, Steve Tandy, mae hyn yn “newyddion gwych” i gychwyn y tymor newydd.
“Mae ei botensial i’w weld yn glir”, meddai, “mae’n cyffroi’r cefnogwyr a’r hyfforddwyr gyda’i gamau a’i lygad am y llinell, ond mae hefyd yn ddewr tu hwnt – fel y mae pawb sydd wedi ei wylio yn medru tystio.”