Mi fydd y Gleision yn herio Caeredin ym Mharc yr Arfau heno, mewn gêm i gychwyn cynghrair y Gunnies Pro14 ar ei newydd wedd.

Ddechrau’r mis diwethaf, cyhoeddwyd y bydd rhan o enw’r gynghrair yn newid o fod yn Pro12 i Pro14 wrth i ddau dîm o Dde Affrica – sef y Toyota Cheetahs a’r Southern Kings – ymuno â thimau o Gymru, Iwerddon, yr Eidal a’r Alban.

Y gêm heno fydd ymddangosiad cyntaf y chwaraewr ail reng, Damian Welch, i’r Gleision, a hynny wedi i’r clwb ei brynu o Exeter Chiefs yn gynharach eleni.

Bydd Jason Harries, cyn-chwaraewr Cwins Caerfyrddin, hefyd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf heno i glwb Caeredin.

Bydd y gêm yn cychwyn yn fuan ar ôl hanner awr wedi saith ac yn cael ei darlledu’n fyw ar BBC2.