Warren Gatland (Llun: Joe Giddens/PA)
Fe gerddodd prif hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland i mewn i gynhadledd y wasg yn Auckland heddiw yn gwisgo trwyn coch.
Roedd yn ymateb i’r New Zealand Herald, oedd wedi ei ddarlunio fe fel clown ar ôl i’r Llewod golli’r prawf cyntaf ar yr un cae bythefnos yn ôl.
Mae Warren Gatland wedi dweud ers hynny ei fod e’n anhapus ag agwedd y wasg tuag ato yn ystod y daith.
Daeth y gyfres i ben yn gyfartal heddiw wrth i’r trydydd prawf ar Barc Eden orffen yn gyfartal 15-15.
‘Cyfres wych’
Dywedodd: “Ry’n ni wedi bod yng nghalonnau’r cyhoedd a’r cefnogwyr yn Seland Newydd. Mae hi wedi bod yn gyfres wych.
“Yr hyn oedd yn siomedig i fi oedd faint o negatifrwydd oedd o gwmpas.
“Dw i’n credu y dylen ni gofleidio cysyniad y Llewod, mae hi wedi bod yn wych. Dw i’n credu bod tipyn o negatifrwydd wedi troi’r Kiwis oddi wrth gefnogi’r Crysau Duon.
“Roedden nhw wir yn gobeithio y bydden ni’n gwneud yn dda ac y bydden ni, fel tîm ac fel taith, yn cofleidio Seland Newydd.
“Ond mae hynny ar ben nawr, felly byddwn ni’n mwynhau’r dyddiau nesaf fel carfan ac yn edrych yn ôl ar yr hyn y mae’r criw hwn o chwaraewyr wedi’i gyflawni.”
‘Fy syniad i’
Ei syniad e oedd gwisgo’r trwyn coch i’r gynhadledd, meddai Warren Gatland.
“Roedd e gyda fi’r wythnos ddiwethaf ond do’n i ddim yn credu mai dyna’r amser cywir i’w wisgo fe.”