Mae canolwr tîm rygbi Seland Newydd, Sonny Bill Williams wedi’i wahardd ar gyfer y prawf tyngedfennol yn erbyn y Llewod yn Auckland ddydd Sadwrn nesaf.
Cafodd ei anfon o’r cae ddoe am hyrddio asgellwr y Llewod, Anthony Watson yn ei ben ar ôl 25 munud yn unig o’r gêm.
Fe yw’r chwaraewr cyntaf o Seland Newydd i’w anfon o’r cae ers 50 o flynyddoedd, a’r cyntaf erioed ar dir Seland Newydd. Dim ond tri o’r Crysau Duon yn eu holl hanes sydd wedi gweld y cerdyn coch.
Cafodd ei wahardd am bedair wythnos gan banel disgyblu yn Wellington heddiw, ac mae Malakai Fekitoa wedi’i alw i’r garfan yn ei le.
Pe bai’r Llewod yn ennill yn Auckland, byddan nhw’n curo Seland Newydd mewn cyfres am y tro cyntaf ers 1971.
Dywedodd Sonny Bill Williams ei fod e’n “siomedig” gyda’r dyfarniad, ac nad oedd y weithred yn fwriadol. Cadarnhaodd ei fod e wedi ymddiheuro wrth Anthony Watson.