Sam Warburton
Byddai’r Llewod yn gryfach yn ardal y dacl pe bai Sam Warburton yn cael ei ddewis yn safle’r blaenasgellwr ar gyfer yr ail brawf, yn ôl blaenasgellwr Seland Newydd, Jerome Kaino.
Er ei fod e’n gapten ar y garfan, roedd y Cymro ar y fainc ar gyfer y prawf cyntaf yn Auckland yr wythnos ddiwethaf, pan enillodd y Crysau Duon o 30-15.
Ond mae disgwyl iddo fe gael ei enwi ymhlith y pymtheg fydd yn dechrau’r ail brawf yn Wellington ddydd Sadwrn, gyda’r Llewod yn gorfod ennill er mwyn osgoi colli’r gyfres yn y ddwy gêm gyntaf.
Pe bai e’n cael ei ddewis, fe allai olygu mai’r Gwyddel a chapten y tîm ddydd Sadwrn diwethaf, Peter O’Mahony fydd yn colli ei le.
Dywedodd Jerome Kaino fod Sam Warburton yn “arweinydd gwych” ac na fyddai’r Llewod yn “colli unrhyw beth drwy gael Sam i mewn”.
“R’yn ni’n disgwyl llawer mwy o ddwyster yn ardal y dacl os ydyn nhw’n dod â Sam i mewn. Os rhywbeth, maen nhw’n cryfhau drwy ei gael e i mewn.”
Dim ond ddwywaith – yn 1899 a 1989 – y mae’r Llewod wedi ennill cyfres ar ôl colli’r prawf cyntaf, a dydyn nhw ddim wedi ennill gêm brawf yn Seland Newydd ers 24 o flynyddoedd.
Daeth eu buddugoliaeth gyfres ddiwethaf dros Seland Newydd yn 1971.