Y Swalec o dan y llifoleuadau (Llun: golwg360)
Mae Swydd Derby wedi gorffen ail ddiwrnod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Morgannwg o dan lifoleuadau Caerdydd gyda mantais o 53 rhediad.
Ar ôl bowlio Swydd Derby allan am 288 ar ddiwrnod cynta’r gêm Bencampwriaeth o dan y llifoleuadau yng Nghaerdydd, dechreuodd Morgannwg yr ail ddiwrnod ar 5-0 wrth i Jacques Rudolph a’r noswyliwr Timm van der Gugten geisio lleihau’r diffyg yn y batiad cyntaf.
Y sesiwn gyntaf
Chwaraeodd yr Iseldirwr Timm van der Gugten yn aeddfed ar ddechrau’r diwrnod ac roedd e wedi bod yn edrych yn gyfforddus cyn i Tony Palladino ddarganfod ei goes o flaen y wiced un rhediad yn brin o bartneriaeth agoriadol o hanner cant gyda Rudolph. Ond aeth y batiwr o Dde Affrica yn fuan wedyn dan law’r un bowliwr wrth iddo fe ddarganfod dwylo diogel Wayne Madsen yn y slip, gyda’r sgôr yn 58.
Goroesodd y batiwr newydd, Nick Selman hanner cyfle i’r wicedwr Daryn Smit oddi ar fowlio Luis Reece cyn taro’r bowliwr cyflym llaw chwith am bedwar oddi ar y belen nesaf. Ond fe gipiodd Tony Palladino drydedd wiced o fewn dim o dro, wrth iddo fe ddarganfod coes Owen Morgan o flaen y wiced heb i’r batiwr sgorio. Ei ffigurau ar y pryd oedd pedair pelawd, tair pelawd ddi-sgôr, tair wiced am dri rhediad, a’r wicedi i gyd wedi’u cipio mewn 14 o belenni.
Roedd siom eto fyth i Forgannwg cyn cinio, wrth iddyn nhw golli Colin Ingram am 18, wrth iddo fe roi daliad syml i’r slip Gary Wilson oddi ar fowlio’r troellwr coes Jeevan Mendis, ac roedd Morgannwg mewn trafferth ar 87-4 erbyn yr egwyl.
Yr ail sesiwn
Fe allai Aneurin Donald fod wedi colli’i wiced yn gynnar yn yr ail sesiwn oni bai bod Gary Wilson wedi gollwng y bêl oddi ar fowlio Jeevan Mendis. Arweiniodd Donald a Nick Selman Forgannwg i rywfaint o ddiogelwch yn ystod sesiwn araf, cyn i Donald gael ei fowlio gan Luis Reece am 38. Roedd Nick Selman heb fod allan ar 49 erbyn amser te wrth i Forgannwg orffen y sesiwn ar 168-5.
Y sesiwn olaf
Cyrhaeddodd y batiwr, a gafodd ei eni yn Awstralia, ei hanner canred oddi ar 152 o belenni yn y belawd gyntaf ar ôl yr ail egwyl. Ond doedd hi ddim yn hir cyn iddo fe golli’i wiced, ei goes o flaen y wiced oddi ar fowlio Jeevan Mendis am 50, a Morgannwg yn 170-6.
Dilynodd Chris Cooke yn fuan wedyn am 14, wedi’i ddal yn yr ochr agored wrth yrru’n sgwâr i Hamidullah Qadri oddi ar fowlio Jeevan Mendis. Cipiodd y daliwr ei wiced gyntaf mewn criced dosbarth cyntaf wrth i Andrew Salter gynnig daliad syml i Gary Wilson yn y slip, ac roedd Morgannwg erbyn hynny’n 198-8.
Roedd Marchant de Lange a Graham Wagg wedi ychwanegu 26 o rediadau at y cyfanswm cyn i Swydd Derby gymryd y bêl newydd gyda naw pelawd yn weddill o’r diwrnod. Buan y collodd Marchant de Lange ei wiced, wedi’i fowlio gan Tom Taylor am 22 a chollodd Graham Wagg ei wiced ar yr un sgôr wrth i Tony Palladino ddarganfod ei goes o flaen y wiced. Gorffennodd y bowliwr gyda phedair wiced am 36.
Daeth y noswylwyr Tony Palladino a Tom Taylor i’r llain i wynebu dwy belawd ola’r dydd ac roedden nhw’n 2-0 erbyn y diwedd, 53 rhediad ar y blaen i Forgannwg.