Legins Tim Cymru, Gemau'r Gymanwlad
Mae myfyrwyr o Brifysgol De Cymru wedi ennill cystadleuaeth i ddylunio rhan o git Tîm Cymru ar gyfer gemau’r Gymanwlad yn Awstralia’r flwyddyn nesaf.
Yn wreiddiol o Maidenhead, mae Megan Bentley ar ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol De Cymru ac wedi ennill cystadleuaeth yr adran ffasiwn drwy gynllunio legins ar gyfer yr athletwyr Cymreig.
Fe fydd ei chynllun yn cael ei gynhyrchu gan gwmni o Benarth, The Power of Greyskull, sy’n arbenigo mewn dillad chwaraeon.
“Cefais fy ysbrydoli gan falchder ac angerdd Cymru, ynghyd â lliwiau a bwrlwm yr Arfordir Aur,” meddai Megan Bentley.
“Rwy bob amser yn tueddu i greu cynlluniau lliwgar, gyda phrintiau cryf ar gyfer dillad chwaraeon gan fod hynny’n gwneud i chi sefyll allan.”
‘Amrywiaeth o dalent’
Mae disgwyl y bydd tua 200 o athletwyr o Gymru yn cystadlu yn Gemau’r Gymanwlad yn 2018 ar Arfordir Aur Awstralia.
“Roedden ni’n ymwybodol o safon uchel gwaith cynllunio myfyrwyr y Brifysgol ac roedden ni’n awyddus i gynnwys cynulleidfa ehangach na chefnogwyr chwaraeon ym mharatoadau Tîm Cymru ar gyfer Gemau 2018,” meddai Cathy Williams ar ran Gemau’r Gymanwlad Cymru.
“Mae’r prosiect yma’n tynnu sylw at yr amrywiaeth o dalent sydd gennym ni yma yng Nghymru, ac rydyn ni’n hynod falch hefyd bod y legins yn cael eu cynhyrchu gan gwmni Cymreig. ”