Wayne Pivac (llun o wefan y Scarlets)
Mae’r Kiwi sy’n Brif Hyfforddwr y Scarlets eisiau i’w dîm efelychu cewri 1972 a gurodd y Teirw Duon, a hynny trwy ennill cystadleuaeth y Pro 12.

Yn ôl Wayne Pivac, mae angen i’r tîm o Lanelli greu eu hanes eu hunain trwy ennill yn Nulyn nos fory – dyna fyddai’r tro cynta’ ers pum mlynedd i dîm o Gymru ennill y gystadleuaeth.

“Mae’n wych cael siarad am 1972 ond na fyddai’n braf cael siarad am 2017 am flynyddoedd i ddod?” meddai wrth gefnogwyr ar wefan y rhanbarth.

“Dw i wedi gweld yr angerdd a’r hanes a’r traddodiad sydd ynghlwm â’r lle yma dros gyfnod byr ac r’yn ni eisiau mynd i’r cae a chreu hanes ein hunain.”

“D’yn ni ddim wedi dod yr holl ffordd i wneud dim ond cymryd rhan; r’yn ni wedi gweithio’n galed iawn dros y misoedd a’r blynyddoedd diwetha’. Fel pob tîm, r’yn ni wir eisiau ennill.”

Jiffy’n gweld gobaith

Mae cyn-faswr Cymru, Jonathan ‘Jiffy’ Davies, yn credu bod gan y Scarlets obaith, er gwaetha’ cryfder a phwer eu gwrthwynebwyr, Munster.

“Fe fyddan nhw’n ceisio rhygnu eu ffordd i fuddugoliaeth,” meddai ar Radio Wales. “Ond fe fydd y Scarlets yn creu cyfleoedd ac yn sgorio ceisiadau.”

Mae miloedd o bobol ar y ffordd o orllewin Cymru i Ddulyn gyda llongau fferi ac awyrennau’n llawn.