Mae’r Gweilch wedi arwyddo cyn-brop tîm rygbi De Affrica, Brian Mujati ar gytundeb tymor byr.

Mae gan y rhanbarth nifer o anafiadau ymhlith y rheng flaen, gan gynnwys Dmitri Arhip a Ma’afu Fia.

Yn enedigol o Zimbabwe, mae Brian Mujati yn gadarn yn y sgrym ac mae ganddo fe gryn brofiad o chwarae rygbi ar y lefel uchaf i’w gyn-glybiau, y Llewod a’r Stormers yn Ne Affrica, Northampton, Racing Metro a Sale.

Mae e wedi ennill 12 o gapiau dros ei wlad.

Dywedodd prif hyfforddwr y Gweilch, Steve Tandy: “Mae hwn yn gaffaeliad pwysig i ni o ystyried sefyllfa anafiadau Dmitri a Ma’afu.

“Mae ein perfformiadau’r tymor hwn wedi ein rhoi ni mewn sefyllfa gref ond mae gyda ni wyth gêm yn weddill yn y PRO12 a gêm yn rownd wyth ola’r Cwpan Her ym mis Ebrill.

“Mae Brian wedi profi fod ganddo fe brofiad ar y lefel uchaf, ac fe fydd e’n ychwanegu cymaint o brofiad at y garfan, yn enwedig dros yr wythnosau i ddod pan fo’n chwaraewyr rhyngwladol ni ar goll ac wedi’u hanafu.”

Enillodd Brian Mujati ei gap cyntaf yn 2008, wrth i Dde Affrica drechu Cymru o 43-17 yn Bloemfontein, ac fe heriodd Gymru unwaith eto yng Nghaerdydd y flwyddyn honno, wrth i Gymru golli unwaith eto o 20-15.

Enillodd Gwpan LV gyda Northampton yn 2009, ac mae e wedi chwarae yn rownd derfynol Cwpan Ewrop.