Rob Howley (Llun: CCA2.0)
Doedd perfformiad tîm rygbi Cymru ddim yn ddigon da yn ystod y deng munud olaf yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad neithiwr, yn ôl y prif hyfforddwr dros dro, Rob Howley.
Collodd Cymru o 21-16 ar ôl perfformiad digon cadarn am 70 munud o’r gêm yng Nghaerdydd.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Lloegr yn ddi-guro mewn 16 o gemau rhyngwladol erbyn hyn, diolch i gais hwyr gan yr asgellwr Elliot Daly.
Roedd Cymru ar y blaen o ddau bwynt gyda phedair munud yn weddill, ond manteisiodd y Saeson ar gic wael gan y canolwr Jonathan Davies, ac fe gafodd y cais ei drosi gan Owen Farrell.
Yn yr hanner cyntaf, fe groesodd asgellwr Cymru Liam Williams am gais, ac fe sgoriodd y cefnwr Leigh Halfpenny 11 o bwyntiau gyda’i droed.
Ond aeth Lloegr ar y blaen diolch i gais gan Ben Youngs, wrth i Owen Farrell gicio dwy gic gosb.
Mae Lloegr bellach wedi curo Cymru bedair gwaith yn olynol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
‘Rhagorol’
Roedd perfformiad Cymru’n “rhagorol” am 75 munud, yn ôl Rob Howley.
“Fe wnaethon ni chwarae â chyflymdra a chywirdeb, fel y gwnaeth Lloegr hefyd. Mae gemau rhyngwladol yn cael eu hennill yn ystod y deng munud olaf, pan fo pwysau wrth wneud penderfyniadau.
“Fe wnaethon ni amddiffyn yn arwrol ar adegau, ond doedden ni ddim wedi gallu ymsefydlu yn y deng munud olaf, a phan wnaethon ni hynny, wnaethon ni ddim gorffen pethau cystal ag y gallen ni fod wedi gwneud.
“Mae Lloegr yn gwybod sut i ennill, ac fe gollon ni, ond roedd yn berfformiad gwych.
“Mae’n anodd, ond ry’ch chi’n derbyn hynny, yn ei gofio ac fe fyddwn ni’n ei ddefnyddio ymhen pythefnos wrth i ni fynd i Murrayfield [i herio’r Alban].”
Newyddion da
Os oedd y canlyniad yn siomedig, roedd newyddion gwell i Gymru wrth i Rob Howley gadarnhau y bydd Sam Warburton a George North yn holliach ar gyfer y daith i Murrayfield.
Roedd disgwyl i George North chwarae neithiwr, ond fe gafodd ei dynnu o’r tîm yn hwyr oherwydd anaf i’w goes, gydag Alex Cuthbert yn cymryd ei le ar yr asgell.
Ac er i Sam Warburton gael ergyd yn hwyr yn y gêm, dydy e ddim wedi teimlo sgil effeithiau.