Capten yr Eidal, Sergio Parisse (Llun: PA)
Mae capten tîm rygbi’r Eidal, Sergio Parisse wedi galw am “ddwyster am 80 munud” yn erbyn Cymru yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Rhufain brynhawn dydd Sul.
Mae’r Eidal wedi gorffen ar waelod y tabl 11 o weithiau yn hanes y Chwe Gwlad, ar ôl ennill 12 o gemau allan o 85.
Mae Cymru wedi ennill y ddwy gêm ddiwethaf yn erbyn yr Eidal yn y gystadleuaeth, gan sgorio dros 60 o bwyntiau ym mhob gêm.
Dydy’r Eidal ddim wedi curo Cymru ers deng mlynedd – a dim ond Sergio Parisse a chapten Cymru, Alun Wyn Jones o blith y timau y diwrnod hwnnw fydd yn chwarae yn y gêm ddydd Sul.
‘Rhaid i ni fod yn bositif’
Mae Sergio Parisse yn mynnu bod rhaid i’w dîm fod yn bositif er gwaetha’r canlyniadau yn y gorffennol, ac fe gawson nhw hwb yn yr hydref wrth iddyn nhw lwyddo i guro De Affrica am y tro cyntaf erioed.
“Rhaid i ni fod yn bositif, ac ry’n ni’n hapus i ddechrau ymgyrch Chwe Gwlad arall yn erbyn Cymru.
“Eleni, ry’n ni wedi paratoi ar gyfer Cymru mewn ffordd wahanol.
“Mae’n wahanol i’r ffordd y gwnaethon ni baratoi ar gyfer De Affrica a Tonga ym mis Tachwedd.
“Ry’n ni wedi ymarfer mewn ffordd gorfforol iawn yr wythnos iawn, ac wedi gweithio mor galed ag y gallwn ni ar gyfer y gêm hon.”
‘Haeddu bod yn y gystadleuaeth’
Ers iddyn nhw ymuno â’r gystadleuaeth yn 2000, mae’r Eidal wedi curo Iwerddon, yr Alban a Chymru.
Ychwanegodd Sergio Parisse: “Ry’n ni’n haeddu bod yn y twrnament hwn oherwydd y canlyniadau ry’n ni wedi’u cael yn y Chwe Gwlad.
“Bydd y buddugoliaethau gawson ni yn erbyn Iwerddon, yr Alban a Chymru’n aros yn y cof, ond nawr ry’n ni’n edrych ymlaen ac yn gobeithio adeiladu ar ein hanes ein hunain.
Gêm gorfforol, galed
“Ry’n ni’n ceisio sicrhau nad ydyn ni’n arafu ar ôl 60 munud. Mae’n bwysig ein bod ni’n chwarae am yr 80 munud llawn.
“Fel bob tro ry’n ni’n chwarae yn erbyn Cymru, dw i’n disgwyl gêm gorfforol, galed iawn.
“Maen nhw’n chwarae â llawer o gyflymdra, felly fydd hi ddim yn wahanol y tro hwn.
“Nid ennill neu golli yw ein hagwedd ni, y perfformiad sy’n bwysig.
“Yn y ddwy flynedd diwethaf yn erbyn Cymru, ry’n ni wedi cael canlyniadau caled yn Rhufain a Chaerdydd.
“Dw i’n hyderus iawn y gallwn ni berfformio’n dda yfory, ac os ydyn ni’n gwneud hynny am 80 munud, yna fe fyddwn ni’n gwneud yn dda.
“Ry’n ni’n dod at y gêm gyda’r bwriad o gynhyrchu 80 munud o ddwyster. Mae gyda ni ddigon o ansawdd i sicrhau’r canlyniad.”