Taulupe Faletau (Llun: PA)
Fe fydd blaenasgellwr Cymru, Taulupe Faletau yn cael prawf ffitrwydd hwyr ar ei ben-glin ond mae’n annhebygol y bydd e ar gael ar gyfer gêm agoriadol Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidal ddydd Sul.
Mae ei anaf yn golygu y gallai blaenasgellwr y Picwns, Thomas Young gymryd ei le yn y garfan, er bod disgwyl iddo fod ar y fainc.
Ond fe allai’r prif hyfforddwr dros dro, Rob Howley hefyd ddewis un o blith James King ac Olly Cracknell.
Pe na bai Taulupe Faletau ar gael, y disgwyl yw y bydd Ross Moriarty yn dechrau yn safle’r wythwr, gyda Sam Warburton a Justin Tipuric y naill ochr iddo.
Mae Luke Charteris wedi torri asgwrn yn ei le ers y Nadolig, sy’n golygu y gallai Jake Ball ddechrau yn yr ail reng, ochr yn ochr â’r capten newydd Alun Wyn Jones.
Er gwaetha’r anafiadau i’r ddau, mae disgwyl iddyn nhw fod ar gael i herio Lloegr yng Nghaerdydd yr wythnos nesa’.
Ddoe, dywedodd yr is-hyfforddwr Robin McBryde ei bod hi’n “rhy gynnar” i gynnwys Taulupe Faletau yn y tîm.
Dydy Cymru ddim wedi cael eu curo gan yr Eidal ers 2007, ac maen nhw wedi sgorio o leiaf 60 o bwyntiau yn y ddwy gêm ddiwetha’ yn eu herbyn.
Ond mae’r Eidal, o dan y prif hyfforddwr newydd Conor O’Shea eisoes wedi curo De Affrica’r tymor hwn.