Mae barnwr wedi gwrthod cais i ddirwyn clwb rygbi Cymry Llundain i ben, ar ôl clywed bod y clwb wedi cael ei ddiddymu.
Roedd swyddogion Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) wedi gofyn i’r clwb ymddangos gerbron Llys Methdaliad a Chwmnïau yn Llundain ond cafodd y cais ei wrthod gan y barnwr Nicholas Briggs.
Yn ôl cyfreithiwr ar ran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, roedd y broses o ddiddymu’r clwb wedi dechrau cyn y Nadolig.
Roedd cyfreithiwr wedi awgrymu mewn gwrandawiad blaenorol bod gwerth £90,000 o drethi yn ddyledus gan y clwb rygbi.
“Hollol Anghynaladwy”
Ym mis Rhagfyr dywedodd Cadeirydd Cymry Llundain, Gareth Hawkins bod y clwb yn bwriadu diddymu’n wirfoddol ac “nad oedd unrhyw ddewis.”
Ychwanegodd mewn datganiad bod “model busnes y clwb yn hollol anghynaladwy.”
“Mae’r dyledion sydd wedi eu cronni o fasnachu yn y modd yma yn golygu nad oes dewis ond i ddiddymu’r clwb.”