Pat Palmer (Llun: Clwb Rygbi Pontypridd)
Mae prop Clwb Rygbi Pontypridd, Pat Palmer wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o’r byd rygbi yn dilyn anaf.

Mae’n cael ei ystyried yn un o chwaraewyr gorau’r clwb yn yr oes led-broffesiynol, ar ôl chwarae mewn 94 o gemau dros gyfnod o chwe blynedd, gan sgorio pum cais.

Fe gynrychiolodd dimau Cymru dan 18, dan 19 a dan 20 yn ystod ei yrfa, ynghyd â’r Barbariaid.

Ond mae e wedi cael sawl anaf i’w gefn a’i ysgwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ymunodd e â Phontypridd yn 2008 ar ôl bod yn aelod o Academi’r Gleision. Daeth yn aelod o garfan y Gleision cyn symud i’r Dreigiau’n ddiweddarach.

Dychwelodd e i Bontypridd yn 2011, gan ddod yn aelod blaenllaw o’r rheng flaen.

Ond fe lwyddodd i chwarae mewn 34 o gemau’n unig rhwng 2012 a 2015, cyn datgymalu ei ysgwydd ar ddechrau’r tymor hwn.

Fe gafodd lawdriniaeth ar ei ysgwydd, ond bellach mae e wedi cael cyngor i beidio â pharhau â’i yrfa, ac fe fydd yn mynd i faes meddygaeth.

Dywedodd Pat Palmer ei bod yn “fraint cael cynrychioli Pontypridd” a’i glybiau eraill.