Pau 21–22 Gleision
Mae gobeithion y Gleision yng Nghwpan Her Ewrop yn fyw o hyd wedi buddugoliaeth ddramatig yn erbyn Pau yn y Stade du Hameau nos Sadwrn.
Roedd angen cic hwyr Steve Shingler ar y Cymry i gipio’r fuddugoliaeth yn y Pyrenees.
Er i Shingler gicio’r ymwelwyr o Gaerdydd ar y blaen, y tîm cartref a gafodd y cais cyntaf wedi pedwar munud, Louis Dupichot yn croesi a Brandon Fajardo’n ychwanegu’r trosiad.
Caeodd Shingler y bwlch i bwynt gyda’i ail gic gosb wedi hynny cyn i Julien Tomas sgorio ail gais y Ffrancwyr hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf, 14-6 y sgôr wedi trosiad Fajardo.
Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond roedd y Gleision yn ôl o fewn sgôr yn gynnar yn yr ail hanner diolch i dri phwynt arall o droed Shingler.
Roedd y Cymry’n gyfartal yn fuan wedyn diolch i gais Willis Halaholo, ac ar y blaen wedi trosiad Shingler.
Ymestynnodd y maswr fantais ei dîm gyda chic gosb arall cyn i’r Ffrancwyr daro nôl a mynd ar y blaen eto gyda chais Pierre Dupouy a throsiad Faiardo.
Felly yr arhosodd hi tan ddau funud o ddiwedd yr wyth deg pan lwyddodd Shingler gyda chic gosb arall, ei chweched cic lwyddiannus wrth iddo orffen y noson gyda dau bwynt ar bymtheg.
Yn bwysicach, roedd y gic honno’n ddigon i ennill y gêm i’r Gleision o un pwynt. Mae’r fuddugoliaeth yn eu rhoi’n ail yn nhabl grŵp 4, bwynt y tu ôl i Gaerfaddon ar y brig.
.
Pau
Ceisiau: Louis Dupichot 4’, Julien Tomas 19’, Pierre Dupouy 67’
Trosiadau: Brandon Fajardo 4’, 19’, 67
.
Gleision
Cais: Willis Halahol 49’
Trosiad: Steve Shingler 49’
Ciciau Cosb: Steve Shingler 2’, 12’, 43’, 60’, 78’