Derwyddon Cefn 0–0 Caerfyrddin     
                                          

Sicrhaodd Caerfyrddin eu lle yn chwech uchaf Uwch Gynghrair Cymru wrth i’r tabl hollti gyda gêm gyfartal yn erbyn Derwyddon Cefn nos Sadwrn.

Roedd yr Hen Aur yn gwybod cyn y gêm y byddai pwynt yn ddigon a dyna’n union a gawsant gyda gêm ddi sgôr oddi cartref ar y Graig.

Yr ymwelwyr a ddechreuodd orau cyn i’r Derwyddon ddechrau dod iddi wedi tua deg munud. Gwnaeth Lee Idzi arbediad da i atal Stuart Cook ond prin oedd cyfleoedd clir ar y cyfan.

Gorffennodd Caerfyrddin yr hanner cyntaf yn well a bu bron i Mark Jones agor y sgorio ond llusgodd ei ergyd fodfedd heibio’r postyn.

Declan Carroll a gafodd gyfle gorau’r Hen Aur yn yr ail hanner ond er iddo gael ei droed i’r bêl cyn y gôl-geidwad fe anelodd ei ergyd heibio’r postyn.

Roedd yr ymwelwyr yn amlwg yn fodlon setlo am bwynt yn y munudau olaf a dyna’r union a gawsant wrth iddi orffen yn ddi sgôr.

Roedd y pwynt hwnn’n ddigon i sicrhau lle Caerfyrddin yn y chwech uchaf heb orfod dibynnu ar ganlyniadau eraill.

Fel y digwyddodd pethau, byddai tîm Mark Aizlewood wedi cyrraedd yr hanner uchaf pryn bynnag gan mai dim ond gêm gyfartal a gafodd Llandudno gartref yn erbyn y Rhyl.

.

Derwyddon Cefn

Tîm: Jones, Hesp (Parle 82’), Eckersley (Barrow 50’), Cook, Blenkinsop, Pritchard, Peate, Arsan, Hajdari, Roper, Ruane

Cerdyn Melyn: Eckersley 39’

.

Caerfyrddin

Tîm: Idzi, Sheehan, Hanford, Surman, Bailey, Bassett, Morgan, Lewis, Carroll, L. Thomas (M. Thomas 88’), Jones (Griffiths 90+5’)

Cardiau Melyn: Carroll 32’, Bassett 71

.

Torf: 194