Mae hyfforddwr blaenwyr rhanbarth rygbi’r Gweilch, Chris Gibbes wedi cael ei benodi’n brif hyfforddwr tîm Wellington yn Seland Newydd.

Fe fydd e’n dychwelyd i’w famwlad ar ddiwedd y tymor i ddechrau ar ei swydd newydd.

Cafodd cyn-brif hyfforddwr Waikato, sy’n 43 oed, ei benodi gan y Gweilch yn 2013.

Mewn datganiad, dywedodd: “Dw i wedi bod oddi cartref ers bron i bedair blynedd nawr, felly pan ddaeth y cyfle cyffrous hwn, roedd yn ymddangos fel yr amser cywir i fi. Roedd yn rhy dda i’w wrthod.

“Fe ddaeth Abertawe’n ail gartref i fi a dw i wedi bod wrth fy modd bob munud gyda’r Gweilch.

“Dw i’n sicr yn well hyfforddwr ac yn berson gwell oherwydd fy amser yn yr amgylchfyd yma, a bydda i wastad yn ddiolchgar am y cyfle dw i wedi’i gael i weithio gyda phobol o safon…”

Ond am y tro, fe fydd e’n canolbwyntio ar sicrhau y gall y Gweilch aros ar frig y Guinness Pro12.