Mae Taulupe Faletau wedi anafu ei ben-glin unwaith eto (Llun: PA)
Mae amheuon a fydd Taulupe Faletau yn holliach ar gyfer gêm gyntaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl iddo anafu ei ben-glin unwaith eto.

Mae Cymru’n herio’r Eidal ar ddiwrnod agoriadol y gystadleuaeth ar Chwefror 5.

Ond mae’r wythwr yn wynebu hyd at chwe wythnos allan ar ôl cael yr un anaf a berodd iddo golli deufis o rygbi ddechrau’r tymor.

Mae e wedi chwarae pedair gêm yn unig i Gaerfaddon ar ôl symud o’r Dreigiau cyn dechrau’r tymor, a doedd e ddim ar gael ar gyfer tair gêm Cymru yn yr hydref.