Alan Curtis (Llun: Clwb Pêl-droed Abertawe)
Mae Alan Curtis wedi talu teyrnged i brif hyfforddwr newydd tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement yn dilyn y fuddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Crystal Palace nos Fawrth.
Cadarnhaodd y clwb brynhawn ddoe fod y prif hyfforddwr newydd wedi cael ei benodi ar gytundeb dwy flynedd a hanner, yn olynydd i Bob Bradley a gafodd ei ddiswyddo fis diwethaf.
Roedd disgwyl i Paul Clement aros yn yr eisteddle i wylio’r gêm neithiwr, ond fe aeth i’r ystafell newid yn ystod yr egwyl ar ôl bod yn ôl ac ymlaen ar yr ystlys.
Bydd ei gêm swyddogol gyntaf wrth y llyw ddydd Sadwrn pan fydd yr Elyrch yn teithio i Hull yng Nghwpan yr FA ddydd Sadwrn.
Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod yr Elyrch yn codi oddi ar waelod tabl yr Uwch Gynghrair.
Daeth y gôl fuddugol gan yr amddiffynnwr Angel Rangel ar ôl 87 munud, a hynny ar ôl i’r amddiffynnwr arall, Alfie Mawson roi’r Cymry ar y blaen yn yr hanner cyntaf.
Ond llwyddodd Wilfried Zaha i unioni’r sgôr gyda foli celfydd cyn i Abertawe gipio’r fuddugoliaeth.
‘Cyfraniad positif’
Yn ôl y rheolwr dros dro, Alan Curtis, fe wnaeth Paul Clement gyfraniad positif i’r tîm ar ei ddiwrnod cyntaf yn y swydd.
“Daeth Paul i lawr, a gwneud cyfraniad positif iawn.
“Wnes i gyfarfod â fe am y tro cyntaf y prynhawn yma, fe ddaeth e i’r ystafell newid i siarad â’r chwaraewyr cyn y gêm, ac fe ddaeth e i lawr hanner amser, ac yna ar y diwedd, ac roedd e ynghlwm wrth yr eilyddio hefyd.
“Does dim byd gwell i unrhyw chwaraewr na chael rheolwr newydd yn yr eisteddle.”
Gary Rowett
Yn y cyfamser, mae Gary Rowett, un arall oedd yn cael ei gysylltu â’r brif swydd yn Abertawe, yn un o’r ffefrynnau ar gyfer swydd rheolwr Hull.
Cafodd Mike Phelan ei ddiswyddo nos Fawrth.