Scarlets 15–10 Gleision
Y tîm cartref aeth â hi wrth i’r Gleision ymweld â Pharc y Scarlets yn y Guinness Pro12 brynhawn Sul.
Sgoriodd y Scarlets gais yn gynnar yn y ddau hanner ac fe brofodd hynny’n ddigon i wŷr y gorllewin.
Daeth cais agoriadol y gêm wedi deuddeg munud, Steff Evans yn croesi yn y gornel chwith wedi gwrthymosodiad da a gafodd ei ddechrau yn ei hanner ei hun gan Rhys Patchell.
Digon cyfartal a oedd gweddill yr hanner cyntaf gyda’r ddau dîm yn cael cyfnodau da ond tri phywnt yr un o draed Patchell a Steve Shingler a oedd yr unig bwyntiau arall cyn yr egwyl, 8-3 y sgôr wrth droi.
Sgoriodd y Scarlets eu hail gais yn gynnar yn yr ail gyfnod wedi gwrthymosodiad effeithiol arall. Roedd Evans yn ei chanol hi eto ac roedd Jonathan Davies wrth law i dderbyn y bêl ganddo cyn rhoi’r cais ar blât i Scott Williams.
Ychwanegodd Patchell y trosiad ac roedd y Scarlets ddeuddeg pwynt ar y blaen gydag ychydig dros hanner awr yn weddill.
Roedd y Gleision yn ôl yn y gêm o fewn dim diolch i gais o ddim byd i Willis Halaholo, y canolwr yn ochr-gamu heibio i Patchell yn rhwydd cyn sgorio, 15-10 wedi trosiad Shingler.
Yr ymwelwyr a oedd yn edrych orau wedi hynny ond daliodd amddiffyn y Scarlets yn gryf a bu rhaid i’r Gleision fodloni af bwynt bonws yn unig.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Scarlets i’r pedwerydd safle yn nhabl y Pro12, tra mae’r Gleision yn aros yn seithfed.
.
Scarlets
Ceisiau: Steff Evans 12’, Scott Williams 46’
Trosiad: Rhys Patchell 47’
Cic Gosb: Rhys Patchell 32’
.
Gleision
Cais: Willis Halaholo 54’
Trosiad: Steve Shingler 56’
Cic Gosb: Steve Shingler 35’