Alan Curtis (Llun: Clwb Pêl-droed Abertawe)
Mae rheolwr dros dro tîm pêl-droed Abertawe, Alan Curtis wedi dweud y bydd yn “anodd iawn” i’r tîm aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Daw ei sylwadau ar ôl i’r Elyrch golli unwaith eto, y tro hwn o 3-0 yn erbyn Bournemouth yn Stadiwm Liberty.

Mae’r canlyniad yn golygu eu bod nhw’n gorffen 2017 ar waelod tabl yr Uwch Gynghrair, gydag adroddiadau eu bod yn barod i benodi Paul Clement yn rheolwr o fewn y 48 awr nesaf.

Ar ôl y gêm, dywedodd Alan Curtis wrth y BBC: “Fe ddangosodd heddiw y bydd hi’n anodd iawn. Ond dw i’n credu – yn naïf neu beidio – y gall fod digon ynom ni i gael canlyniadau gwell.”

Ildiodd yr Elyrch gôl gynnar unwaith eto wrth i Benik Afobe roi’r ymwelwyr ar y blaen ar ôl 25 munud.

Ychwanegodd Alan Curtis: “Roedd y gôl gyntaf yn dyngedfennol i ni oherwydd unwaith ry’n ni’n ildio’r gyntaf mae’r hyder yn ein gadael ni.

“Mae hyder ym myd y campau, yn enwedig pêl-droed, yn beth bregus.

“Does dim esboniad heblaw ein bod ni ar waelod y tabl, ddim yn ennill gemau ac yn ildio gormod [o goliau].

“Efallai pe na baen ni wedi ildio’r ail gôl, gallen ni fod wedi mynd i mewn ar ei hôl hi o 1-0 ac ail-drefnu.

“Ond fe wnaeth Bournemouth i ni yr hyn roedden ni’n arfer ei wneud i dimau eraill.”