Mae adroddiadau’n awgrymu y bydd Clwb Pêl-droed Abertawe’n penodi Paul Clement yn rheolwr yn ystod y 48 awr nesaf.
Mae lle i gredu bod y perchnogion Americanaidd yn awyddus i benodi olynydd i’w cydwladwr Bob Bradley cyn eu gêm nesaf yn Crystal Palace nos Fawrth.
Daeth cyfnod Bob Bradley wrth y llyw – 85 diwrnod – i ben yn dilyn colled o 4-1 yn erbyn West Ham ar Ddydd San Steffan.
Cyn-reolwr Derby ac is-reolwr presennol Bayern Munich, Paul Clement fu’r ffefryn am y swydd ers tro, ac mae lle i gredu ei fod e wedi bod yn trafod y swydd â’r Americanwyr dros y dyddiau diwethaf.
Pwy yw Paul Clement?
Paul Clement yw is-reolwr presennol Bayern Munich, yn gynorthwyydd i’r Eidalwr Carlo Ancelotti, gan ail-gynnau’r berthynas a ddechreuodd yn Chelsea, ac a barhaodd yn Paris St Germain a Real Madrid.
Fe dreuliodd gyfnodau’n hyfforddwr gyda Fulham a Blackburn hefyd.
Cyfnod digon cythryblus a gafodd fel rheolwr ar Derby yn y Bencampwriaeth, gan bara wyth mis yn unig cyn cael ei ddiswyddo fis Chwefror eleni.
Gyda nifer o arbenigwyr yn galw am reolwr â phrofiad o reoli yn yr Uwch Gynghrair, fe fydd tipyn o waith gan Paul Clement i ddarbwyllo rhai fod ganddo fe ddigon o brofiad i achub yr Elyrch, gydag union hanner y gemau’n weddill y tymor hwn.
Ond efallai mai’r ffactor pwysicaf yn y penderfyniad i’w benodi neu beidio fydd ei gyswllt â rhai o chwaraewyr a chlybiau mwya’r byd, gyda phwyslais arbennig yn cael ei roi ar bwysigrwydd denu enwau mawr i’r clwb pan fydd y ffenest drosglwyddo’n ail-agor ar Ddydd Calan.