Gweilch 19–9 Scarlets

Y Gweilch aeth â hi wrth i’r Scarlets ymweld â’r Liberty ar gyfer gêm ddarbi gorllewin Cymru yn y Guinness Pro12 brynhawn Mawrth.

Roedd cais cosb yn gynnar yn yr ail hanner ynghyd â chicio cywir Dan Biggar yn ddigon i’r tîm cartref mewn gêm agos.

Cyfartal oedd hi hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf wedi i Biggar a Rhys Patchell gyfnewid un cic gosb yr un.

Treuliodd prop y Scarlets, Rob Evans, ddeg munud yn y gell gosb wedi hynny am dacl uchel ond llwyddodd amddiffyn yr ymwelwyr i ddal heb ildio.

Ciciodd Patchell ddwy gic gosb i roi Bois y Sosban chwe phwynt ar y blaen wedi hynny cyn i Biggar haneru’r fantais honno gyda chic olaf yr hanner, 6-9 y sgôr wrth droi.

Gan y Gweilch yr oedd yr oruchafiaeth ymysg y blaenwyr a doedd fawr o syndod mai o sgarmes symudol y deilliodd unig gais y gêm, y dyfarnwr yn dynodi cais cosb wedi i Will Boyde ddymchwel ymdrech pac y Gweilch.

Cafodd blaenasgellwr y Scarlets ei anfon i’r gell gosb a throsodd Biggar y cais i ymestyn mantais y tîm cartref i saith pwynt.

Treuliodd Steffan Evans ddeg munud oddi ar y cae i’r ymwelwyr wedi hynny hefyd ac ychwanegodd Biggar dri phwynt arall i amddifadu’r Scarlets o hyd yn oed bwynt bonws.

Mae’r canlyniad yn codi’r Gweilch dros Leinster i’r ail safle yn nhabl y Pro12 tra mae’r Scrlets yn aros yn bumed.

.

Gweilch

Cais: Cais Cosb 53’

Trosiad: Dan Biggar 54’

Ciciau Cosb: Dan Biggar 14’, 40’, 59’, 71’

 

.

Scarlets

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 17’, 33’, 38’

Cardiau Melyn: Rob Evans 23’, Will Boyde 53’, Steffan Evans 69′