Carl Hogg - angen help (o wefan Worcester Warriors)
Fe fydd cyn-ail reng Cymru, Phil Davies, yn treulio cyfnod byr yn ceisio helpu i achub clwb Worcester Warriors rhag cwymo o brif gynghrair rygbi Lloegr.

Ac yntau’n hyfforddwr tîm rhyngwladol Namibia, fe fydd y cyn-glo yn dychwelyd i Gaerwrangon lle bu’n brif hyfforddwr am fwy na dwy flynedd.

Fe fydd yn helpu’r hyfforddwr presennol, Carl Hogg, wrth i’r clwb geisio codi o’u safle ddau bwynt o waelod Uwchgynghrair Aviva.

‘Secondiad’

Yn ôl y clwb, mae Phil Davies am fod yno ar “secondiad byr” o’i waith gyda Namibia, y wlad a helpodd i gael eu pwynt cynta’ erioed yng Nghwpan y Byd y llynedd.

“Dw i wedi adnabod Phil ers amser mawr a gweithio gydag e,” meddai Carl Hogg. “Mae’n ddyn yr ydw i’n ymddiried yn llwyr ynddo ac mae’n rhoi cefnogaeth a barn annibynnol i fi.”

Fe fu Phil Davies, sy’n 53 oed, ar wahanol adegau’n hyfforddi’r Gleision a’r Scarlets hefyd ac, yn Worcester Warriors, fe fydd yn ymuno gyda chyn-fachwr Cymru, Mefin Davies, sydd hefyd yn un o’r hyfforddwyr.