O wefan y stablau
Y ffefryn Native River oedd enillydd Grand National Cymru, er ei fod yn gorfod cario pwysau ychwanegol.

Fis ar ôl ennill y Cwpan Aur i’w hyfforddwr Colin Tizzard, fe lwyddodd i gipio gwobr fwya’r byd rasio yng Nghymru gan arwain o ddechrau’r cylch ola’.

Yn ôl yr arbenigwyr, roedd yn lwcus fod y ddaear ychydig caletach nag y mae weithiau ar y cwrs yng Nghas-gwent ac roedd ei bris i lawr i 11-4 ar ddechrau’r ras.

Ac roedd papur y Racing Post yn dweud wedyn mai dyma un o’r perfformiadau mawr yn hanes y ras.

‘Uffar o berfformiad’

Er hynny, fe ddywedodd y joci, Richard Johnson, ei fod yn anhapus am y filltir gynta’ ac y byddai’r ceffyl yn gwneud yn well fyth ar dir caled.

“Mae’n anhygoel,” meddai. “Ar ôl pedair neu bump ffens fe ddaeth o hyd i’w gam. Mae ennill y National Cymreig gyda’r pwysau tryma’ yn uffar o berfformiad.”

Y ceffyl o Iwerddon, Raz De Maree, oedd yn ail.