Gleision 27–16 Dreigiau

Y Gleision aeth â hi wrth iddynt groesawu’r Dreigiau i Barc yr Arfau ar gyfer gêm ddarbi Gŵyl San Steffan yn y Guinness Pro12.

Rhoddodd dau gais yn hwyr yn yr hanner cyntaf fantais iach i’r Gleision wrth droi ac felly yr arhosodd hi wedi ail hanner hynod siomedig.

Munud yn unig a oedd ar y cloc pan groesodd Steve Shingler am gais cyntaf y gêm i’r Gleision, y maswr cartref yn elwa o daclo gwan i groesi yn y gornel dde cyn trosi ei gais ei hun o’r ystlys.

Cyfnewidiodd Angus O’Brien a Shingler gic gosb yr un wedi hynny wrth i’r Gleision aros saith pwynt ar y blaen.

Daeth cardiau melyn braidd yn hallt i Rey Lee-Lo a Rynard Landman a chic gosb arall yr un i’r ddau faswr wedi hynny mewn pum munud digon blêr.

Yna, gyda phedwar dyn ar ddeg yr un ar y cae, fe ddaeth cais i’r Dreigiau wrth i Ashton Hewitt ddilyn a chasglu cic daclus O’Brien. Ychwanegodd O’Brien y trosiad i unioni’r sgôr, 13 pwynt yr un gyda chwarter awr o’r hanner cyntaf ar ôl.

Y Gleision a orffennodd yr hanner orau serch hynny gan sefydlu mantais iach gyda dau gais cyn yr egwyl.

Daeth y cyntaf o’r rheiny i Kristian Dacey wrth iddo droelli trwy dacl Lewis Evans cyn croesi o dan y pyst. Symudiad olaf yr hanner a oedd y llall gyda ffugiad deheuig Shingler yn rhoi Josh Navidi o dan y pyst hefyd. Trosodd seren y gêm, Shingler, y ddau gais, 27-16 y sgôr wrth droi.

Roedd yr ail hanner yn warthus. Byddai un cais wedi rhoi pwynt bonws i’r naill dîm neu’r llall ond ddaeth neb yn agos iawn at groesi mewn ail hanner di sgôr.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gleision yn seithfed a’r Dreigiau’n nawfed yn nhabl y Pro12.

.

Gleision

Ceisiau: Steve Shingler 2’, Kristian Dacey 33’, Josh Navidi 40’

Trosiadau: Steve Shingler 3’, 34’, 40’

Ciciau Cosb: Steve Shingler 15’, 22’,

Cerdyn Melyn: Rey Lee-Lo 19’

.

Dreigiau

Cais: Ashton Hewitt 24’

Trosiad: Angus O’Brien 25’

Ciciau Cosb: Angus O’Brien 12’, 20’, 36’

Cerdyn Melyn: Rynard Landman 21’