Brentford 2–2 Caerdydd
Cafwyd tair gôl hwyr ar Barc Griffin wrth i Brentford a Chaerdydd gael gêm gyfartal yn y Bencampwriaeth brynhawn Llun.
Roedd yr Adar Gleision un gôl ar y blaen am ran helaeth o’r gêm cyn i Brentford unioni pethau saith munud o’r diwedd. Aeth yr ymwelwyr yn ôl ar y blaen wedi hynny ond taro nôl am yr eilwaith a wnaeth y tîm cartref yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Rhoddodd Peter Wittingham Gaerdydd ar y blaen o’r smotyn hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf yn dilyn trosedd Andreas Bjelland ar Sean Morrison yn y cwrt cosbi.
Felly yr arhosodd hi wedi hynny tan saith munud o ddiwedd y naw deg pan unionodd yr eilydd, Sullay Kaikai, gydag ergyd dda i’r gornel uchaf.
Munud o’r naw deg a oedd ar ôl wedi i Kenneth Zohore roi’r Cymry yn ôl ar y blaen ond cipiodd Kaikai bwynt i Brentford gyda’i ail ef ac ail ei dîm yn yr amser brifo ar ddiwedd y gêm.
Mae’r canlyniad yn gadael Caerdydd yn bedwerydd ar bymtheg yn nhabl y Bencampwriaeth, a hynny union hanner ffordd trwy’r tymor.
.
Brentford
Tîm: Bentley, Egan, Dean, Bjelland (Hofmann 77’), Colin, Woods, Yennaris, Field, Vibe (Kaikai 63’), Hogan, Sawyers (McEachran 63’)
Goliau: Kaikai 83’, 90+1’
Cardiau Melyn: Bjelland 23’, Hogan 73’, Dean 75’
.
Caerdydd
Tîm: Murphy, Peltier (Pilkington 64’), Connolly, Morrison Ecuele Manga, Bennett, gunnarsson, Wittingham (O’Keefe 45’), Ralls, Zohore, Hoilett (Noone 77’)
Goliau: Wittingham [c.o.s.] 24’, Zohore 89’
Cardiau Melyn: Wittingham 31’, Gunnarsson 73’
.
Torf: 11,098