Mae rhanbarth rygbi’r Dreigiau’n dweud eu bod nhw’n “siomedig” yn dilyn ymateb Andrew Coombs i ffrae tros yswiriant ar ôl i’w yrfa ddod i ben y llynedd.

Bu’n rhaid i’r clo rhyngwladol ymddeol ym mis Awst ar ôl methu â gwella ar ôl anafu ei ben-glin fis Ebrill y llynedd.

Ac mae’n honni ei fod e wedi gorfod talu “miloedd o bunnoedd” am driniaeth nad oedd ar gael trwy’r Gwasanaeth Iechyd am fod ei bolisi yswiriant wedi dod i ben.

Dywedodd fod y sylw sy’n cael ei roi i les a gofal chwaraewyr gan y Dreigiau’n “embaras llwyr”.

Ond mae’r rhanbarth yn dweud eu bod nhw wedi cynnig cymorth meddygol iddo, ynghyd â’r defnydd o gyfleusterau ar ôl i’w yrfa ddod i ben.

Mewn datganiad heddiw, dywedodd Prif Weithredwr y Dreigiau, Stuart Davies fod y clwb yn dymuno ymateb yn dilyn “y cyhoeddusrwydd” i’r achos ar wefannau cymdeithasol.

Newid polisi

Dywedodd fod y rhanbarth wedi parhau i dalu yswiriant i Andrew Coombs “am rai misoedd” ar ôl ei ymddeoliad, er iddyn nhw newid eu polisi ar gyfer y chwaraewyr.

“Serch hynny, mae ein chwaraewyr yn dal i dderbyn yr un lefel uchel o ofal meddygol, ond fe fydd hyn yn cael ei ariannu’n uniongyrchol gan y rhanbarth wrth symud ymlaen.

“Ni chafodd Andrew unrhyw sicrwydd ynghylch trosglwyddo’i ofal meddygol naill ai cyn neu ar ôl ei ymddeoliad.

“Ond dw i’n tynnu sylw at y gefnogaeth ariannol sylweddol y tu hwnt i’n goblygiadau cytundebol ni a gafodd Andrew cyn iddo ein gadael ni, a hynny yn sgil y parch iddo a’i wasanaeth hir i’r rhanbarth.”

Ychwanegodd fod y rhanbarth wedi rhoi mynediad i’r chwaraewr i gyfleusterau meddygol a bod y “cynnig hwnnw’n parhau”.

“Ry’n ni’n teimlo ein bod ni wedi gweithredu’n broffesiynol ac yn rhesymol wrth ymdrin ag Andrew, yn nhermau rhoi pob cyfle iddo ddychwelyd i’r tîm cyn iddo ymddeol, ac mewn perthynas â’n cynnig parhaus o gefnogaeth iddo ar ôl ei ymddeoliad.”