Dreigiau 21–16 Connacht
Ashton Hewitt ac Angus O’Brien a sgoriodd bwyntiau’r Dreigiau i gyd wrth iddynt guro Connacht ar Rodney Parade yn y Guinness Pro12 nos Wener.
Croesodd Ashton Hewitt am ddau gais i’r tîm cartref a chiciodd Angus O’Brien un pwynt ar ddeg wrth iddynt ennill mewn gêm glos yn erbyn y Gwyddelod.
Agorwyd y sgorio gyda chais cyntaf Hewitt wedi 13 munud a llwyddodd O’Brien gyda’r trosiad cyn ychwanegu gôl adlam i roi ei dîm ddeg pwynt ar y blaen.
Cyfnewidiodd O’Brien a Jack Carty gic gosb yr un wedi hynny cyn i Carty ychwanegu un arall i roi Connacht yn ôl o fewn sgôr ar yr egwyl, 13-6.
Rhoddodd Hewitt fwy o olau dydd rhwng y timau gyda’i ail gais yn gynnar yn yr ail gyfnod ac roedd y fuddugoliaeth fwy neu lai yn ddiogel yn dilyn ail gôl adlam O’Brien.
Gorffennodd Connacht yn gryf gyda chais Niyi Adeolokun a phum pwynt o droed Carty ond daliodd y Dreigiau eu gafael yn y diwedd, 21-16 y sgôr terfynol.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Dreigiau dros Connacht i’r nawfed safle yn nhabl y Pro12.
.
Dreigiau
Ceisiau: Ashton Hewitt 13’, 45’
Trosiad: Angus O’Brien 14’
Cic Gosb: Angus O’Brien 20’
Goliau Adlam: Angus O’Brien 15’, 51’
.
Connacht
Cais: Niyi Adeolokun 68’
Trosiad: Jack Carty 69’
Ciciau Cosb: Jack Carty 24’, 38’, 58’