Treviso 28–34 Gleision

Brwydrodd y Gleision nôl yn y Stadio Monigo i drechu Treviso yn y Guinness Pro12 nos Wener.

Roedd yr Eidalwyr ar y blaen ar yr egwyl ond tarodd yr ymwelwyr nôl gyda cheisiau Cook a Halahalo i ennill y gêm yn yr ail hanner.

Dechreuodd y Gleision yn dda gyda chais yr asgellwr, Rhun Williams, wedi dim ond pum munud.

Tarodd Treviso nôl gyda chais yr un i Dean Budd ac Alberto Sgarbi ond cadwodd Steve Shingler y Gleision o fewn cyrraedd gyda’i gicio cywir at y pyst.

Croesodd cyn asgellwr y Scarlets, Michael Tagicakibau, am drydydd cais y tîm cartref wedi hynny ac roedd Treviso bum pwynt ar y blaen wrth droi.

 Ymestynnodd Braam Steyn y fantais a sicrhau pwynt bonws i’r Eidalwyr gyda phedwerydd cais yn gynnar yn yr ail gyfnod ond yn ôl y daeth y Gleision.

Croesodd Macauley Cook am ail gais y Cymry cyn i sgôr Wilis Halahalo eu rhoi bwynt ar y blaen toc wedi’r awr. Llwyddodd Shingler gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb hwyr i ddiogelu’r canlyniad.

Gorffennodd y maswr y gêm gyda 19 pwynt wrth i’w dîm ennill o 36 pwynt i 28. Mae’r canlyniad yn cadw’r Gleision yng nghanol tabl y Pro12, yn chweched wedi wyth gêm.

.

Treviso

Ceisiau: Dean Budd 12’, Alberto Sgarbi 16’, Michael Tagicakibau 32’, Abraham Steyn 45’

Trosiadau: Ian McKinley 12’, 17’, 33’, 46’

.

Gleision

Ceisiau: Rhun Williams 5’, Macauley Cook 50’, Wilis Halaholo 63’

Trosiadau: Steve Shingler 6’, 64’

Ciciau Cosb: Steve Shingler 21’, 26’, 36’, 56’, 76’