Robin McBryde
Mae Robin McBryde yn derbyn y gall Cymru helpu eu hachos ar gyfer Cwpan y Byd 2019 – ac osgoi bod yn yr un grŵp â rhai o’r timau gorau – trwy sicrhau canlyniadau llwyddiannus yng ngemau’r Hydref.

Mae’r ymgyrch yn dechrau yfory pan fydd Cymru’n herio Awstralia yng Nghaerdydd.

A gyda’r enwau yn cael eu tynnu o’r het ar gyfer Cwpan y Byd Japan 2019 ym mis Mai’r flwyddyn nesaf, mae Cymru angen bod yn wyth ucha’r byd er mwyn peidio wynebu dau ddim cryf yn y grŵp.

Fe wnaeth Awstralia drechu Cymru ym mis Rhagfyr 2012 ac yn sgîl hynny fe syrthiodd y cochion allan o wyth ucha’r byd . Golygodd hynny bod Cymru wedi gorfod bod yn yr un grŵp ag Awstralia a Lloegr yng Nghwpan y Byd 2015.

“Rydym yn gwybod y goblygiadau o beidio â chael cyfnod llwyddiannus iawn yn rhwng nawr a mis Mai,” meddai hyfforddwr cynorthwyol Cymru Robin McBryde.

“Rydym yn gwybod y gallwn ni helpu ein hachos yn 2019 drwy gael canlyniadau rŵan. Mae pawb yn fwy na ymwybodol o hynny.”

Ond os yw Cymru am wireddu hynny, bydd yn rhaid iddyn nhw drechu Awstralia am y tro cyntaf mewn wyth mlynedd a hynny gyda rheng ôl newydd o Dan Lydiate, Justin Tipuric a Ross Moriarty fydd yn gorfod ceisio tawelu David Pocock a Michael Hooper.

Bydd to’r stadiwm ar agor ar gais Cymru’r penwythnos yma ac mae’r rhagolygon yn dweud ei bod hi am fod yn sych.