Mae crwner yn Awstralia wedi dod i’r casgliad bod y cricedwr Philip Hughes wedi marw trwy ddamwain.

Bu farw’r Awstraliad 25 oed yn yr ysbyty ar ôl cael ei daro gan bêl a gafodd ei bowlio gan Sean Abbott yn ystod gêm rhwng De Awstralia a New South Wales yn Sydney ym mis Tachwedd 2014.

Clywodd y crwner fod sylwadau sarhaus wedi cael eu hanelu at Hughes yn ystod y gêm, ond fe ddaeth i’r casgliad nad oedd hynny wedi amharu ei allu i ganolbwyntio.

Penderfynodd ei wrthwynebwyr anelu cyfres o belenni byrion ato gan wybod fod ganddo fe wendid wrth dynnu a bachu’r bêl.

Roedd ei wrthwynebwyr wedi gwadu iddyn nhw wneud sylwadau sarhaus, ond roedd y crwner yn amau hynny, meddai.

Ond fe ddywedodd nad oedd y bowliwr ar fai am ei farwolaeth ychwaith.

Casgliadau

Dywedodd y crwner ei fod yn gobeithio y bydd nifer o wersi’n cael eu dysgu yn dilyn marwolaeth Philip Hughes.

Doedd Hughes ddim yn gwisgo’r cyfarpar diogelwch mwyaf diweddar yn ystod y gêm, ond fe ddywedodd y crwner fod ei farwolaeth yn anochel yn sgil yr ergyd i’w ben. Ers ei farwolaeth, mae cyfarpar diogelwch newydd ar gael ond dywedodd y crwner na fyddai’r cyfarpar hwnnw hyd yn oed wedi gallu achub ei fywyd.

Awgrymodd y crwner y dylid adolygu cyfreithiau’r gêm sy’n canolbwyntio ar fowlio pelenni byrion, er nad oedd y chwarewyr wedi ymddwyn yn groes i ysbryd y gêm ar y diwrnod dan sylw.

Dywedodd hefyd y dylai dyfarnwyr dderbyn rhagor o hyfforddiant i ymdrin ag argyfyngau ar y cae.

Cafodd ymateb y gwasanaethau brys ei feirniadu, ac fe ddywedodd y crwner pe bai’r anaf i Hughes yn llai difrifol, y byddai eu hymateb wedi bod yn annigonol. Ond o ganlyniad i’r ergyd, ni fydden nhw wedi gallu ei achub hyd yn oed pe baen nhw wedi ymateb yn gynt i’r alwad frys.

Mae’r gwasanaethau brys wedi cymryd camau i wella eu hymateb ers y digwyddiad, meddai’r crwner.

Dywedodd y crwner bod Philip Hughes wedi marw trwy ddamwain, o ganlyniad i waedlif ar yr ymennydd.

Dywedodd ei deulu eu bod yn derbyn casgliadau’r crwner.