Dreigiau 16–20 Munster
Colli fu hanes y Dreigiau mewn gêm agos wrth i Munster ymweld â Rodney Parade yn y Guinness Pro12 nos Sadwrn.
Roedd y Cymry ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner ond roedd cais Cian Bohane yn ddigon i’w hennill hi i’r Gwyddelod yn y diwedd.
Cyfnewidiodd Tyler Bleyndaal ac Angus O’Brien gic gosb yr un yn y chwarter awr cyntaf cyn i Jean Kleyn groesi am y cais cyntaf i Munster hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.
Rhoddodd trosiad Bleyendaal yr ymwelwyr saith pwynt ar y blaen ond roedd y Dreigiau’n gyfartal erbyn yr hanner diolch i gais rhyng-gipiad Hallam Amos a throsiad O’Brien.
Rhoddodd cic gosb O’Brien y tîm cartref ar y blaen am y tro cyntaf yn gynnar yn yr ail hanner ac er i Bleyndaal unioni pethau’n fuan wedyn roedd y Dreigiau yn ôl ar y blaen o fewn dim diolch i gic lwyddiannus arall gan O’Brien.
Chwarter awr o’r hanner cyntaf a oedd wedi mynd pan blymiodd Kleyn ar bêl rydd i sgorio’r cais holl bywsig i’r ymwelwyr, ac wedi i Bleyendaal ychwanegu’r trosiad fu dim newid i’r sgôr-fwrdd, 16-20 y sgôr terfynol.
Y Dreigiau’n gorfod bodloni ar bwynt bonws yn unig felly ond mae’r pwynt hwnnw yn ddigon i’w codi i’r seithfed safle yn nhabl y Pro12.
.
Dreigiau
Cais: Hallam Amos 31’
Trosiad: Angus O’Brien 32’
Ciciau Cosb: Angus O’Brien 13’, 48’, 53’
.
Munster
Ceisiau: Jean Kleyn 19’, Cian Bohane 55’
Trosiadau: Tyler Bleyendaal 20’, 56’
Ciciau Cosb: Tyler Bleyendaal, 10’, 50’