Mae’r asgellwr Aled Brew wedi ymuno â Chaerfaddon ar ôl cael ei ryddhau o’i gytundeb gan y Dreigiau.

Roedd Brew yn aelod o garfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn 2011, ond dydy e ddim wedi chwarae i Gymru ers 2012.

Mae e wedi arwyddo cytundeb tan ddiwedd y flwyddyn, ac fe fydd e’n ymuno â’i gyd-Gymro Taulupe Faletau.

Dywedodd cyfarwyddwr rygbi Caerfaddon, Todd Blackadder ei fod yn “falch iawn” bod Brew wedi ymuno â’r clwb, ac y byddai’n ychwanegu “profiad a dyfnder” at y garfan.