Daeth cadarnhad mai hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland fydd hyfforddwr y Llewod ar eu taith i Seland Newydd y flwyddyn nesaf.

Hon fydd ail daith Gatland yn olynol fel hyfforddwr, ar ôl taith lwyddiannus i Awstralia bedair blynedd yn ôl pan enillon nhw’r gyfres o 2-1.

Mae’n golygu na fydd Gatland yn teithio gyda Chymru i Ynysoedd y De, ac mae disgwyl i’r is-hyfforddwr Rob Howley fod yng ngofal y garfan dros dro.

Dydy’r Llewod ddim wedi ennill cyfres ym mamwlad Gatland ers 1971, ac mae e’n dychwelyd yno ddydd Iau ynghyd â rheolwr y tîm, John Spencer i ddechrau ar y trefniadau.

Roedd hyfforddwr Iwerddon, Joe Schmidt a hyfforddwr Lloegr, Eddie Jones hefyd wedi cael eu crybwyll fel posibiliadau ar gyfer swydd y Llewod.

Bydd y profion yn erbyn Seland Newydd yn cael eu cynnal ar Fehefin 24, Gorffennaf 1 a Gorffennaf 8.

Byddan nhw’n chwarae 10 gêm rhwng Mehefin 3 a Gorffennaf 8.