Stadiwm Liberty yn Abertawe
Fe fydd gornest rygbi rhwng timau prifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn Stadiwm Liberty Abertawe nos Fercher yn benllanw pedwar diwrnod o ornestau chwaraeon ar gyfer Varsity Cymru eleni.

A’r gystadleuaeth ryng-golegol flynyddol yn ei hugeinfed flwyddyn, fe fydd Caerdydd yn anelu i gadw eu gafael ar y tlws y gwnaethon nhw ei ennill y llynedd.

Drwy gydol y dydd, fe fydd dros 900 o fyfyrwyr o’r ddwy brifysgol yn cystadlu ar gampws Prifysgol Abertawe mewn mwy na 35 o gystadlaethau a 23 o gampau.

Mae disgwyl i o leiaf 20,000 o fyfyrwyr wylio’r cystadlaethau, gan gynnwys oddeutu 16,000 yn Stadiwm Liberty ar gyfer y gêm rygbi.

Y llynedd cafwyd y dorf fwyaf erioed, ac fe allai’r ffigwr fod yn uwch nag 20,000 eto eleni.

Hanes y gêm rygbi

 

Yn 1997 y cafodd y gêm rygbi Varsity gyntaf ei chynnal rhwng y ddwy brifysgol ac roedd hi’n arfer symud bob blwyddyn rhwng caeau rygbi San Helen a Pharc yr Arfau.

Rhwng 2003 a 2007, cafodd ei chynnal ar Gae’r Bragdy ym Mhen-y-bont ar Ogwr ond bellach mae hi’n symud unwaith eto rhwng Stadiwm Liberty a Stadiwm Principality.

Prifysgol Abertawe sydd wedi ennill y nifer fwyaf o ornestau rygbi ar hyd y blynyddoedd, gan sicrhau 12 buddugoliaeth.

Bellach, mae’r chwaraewyr yn derbyn capiau swyddogol os ydyn nhw’n cynrychioli eu prifysgol yn y gêm.

Pethau’n poethi

 

Ar drothwy’r gêm fawr, mae’r prifysgolion wedi bod yn sôn am gyffro’r diwrnod.

Dywedodd Swyddog Chwaraeon Prifysgol Abertawe, Felix Mmeka: “Fel Swyddog Chwaraeon, rwy’n teimlo’n gyffrous fod Varsity Cymru 2016 yn Abertawe, mae’n wych i athletwyr gael cystadlu ar eu tomen eu hunain.

“Rwy’n siŵr bod ein clybiau’n edrych ymlaen at frwydro am y Darian a’r Gwpan ac mae ein myfyrwyr yn awyddus i wylio’r cyfan. Gwyliwch allan Gaerdydd, mae’r Fyddin Werdd a Gwyn yn dod atoch chi!”

Ychwanegodd Llywydd Undeb Athletau Prifysgol Caerdydd, Sam Parsons: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at Varsity Cymru eleni.

“Drwy gydol fy nghyfnod yn y brifysgol, fe fu Varsity Cymru’n uchafbwynt anferth bob blwyddyn, a galla’ i ddim aros i gael dychwelyd i Abertawe i gadw ein gafael ar y Darian a’r Gwpan.”