Brentford 2–1 Caerdydd                                                                  

Stori gyfarwydd oedd hi i Gaerdydd yn y Bencampwriaeth nos Fawrth, Sheffield Wednesday yn rhoi llygedyn o obaith iddynt o gyrraedd y gemau ail gyfle ond yr Adar Gleision yn methu a manteisio.

Dechreuodd y Cymry’r gêm yn seithfed yn y tabl, un lle a phum pwynt y tu ôl i Wednesday yn y chwech uchaf. Ond er mai dim ond pwynt a gafodd y Tylluanod adref yn erbyn MK Dons fe lithrodd Caerdydd ym mhellach oddi wrthynt wrth golli yn erbyn Brentford ar Barc Griffin.

Goliau hwyr Scott Hogan a gurodd Gaerdydd yn y diwedd yn dilyn 83 munud di sgôr. Rhwydodd blaenwr y tîm cartref ei gyntaf saith munud o’r diwedd wedi i’r bêl dasgu iddo yn y cwrt chwech oddi ar y trawst.

Ychwanegodd Hogan ei ail ef ac ail ei dîm dri munud yn ddiweddarach, yn gorffen yn daclus yn dilyn rhediad pwrpasol a phas dreiddgar Lasse Vibe.

Cafodd Kenneth Zohore argraff oddi ar y fainc i’r ymwelwyr, yn tynnu un yn ôl  funud o’r diwedd wedi iddo ddwyn y meddiant oddi ar amddiffynnwr canol Brentford. Cafodd y blaenwr gyfle i unioni yn yr eiliadau olaf hefyd ond anelodd dros y trawst.

Dyma’r trydydd tro tro yn olynol i Gaerdydd fethu a manteisio ar lithriad gan Sheffield Wednesday. Gyda dim ond dau bwynt o’u pedair gêm ddiwethaf a chwe phwynt bellach yn eu gwahanu hwy a’r gemau ail gyfle mae gobeithion Caerdydd fwy neu lai ar ben.

Dim ond tair gêm sydd ar ôl a’r unig gysur i’r Cymry yw’r ffaith mai yn erbyn Sheffield Wednesday y mae un o’r rheiny.

.

Brentford

Tîm: Button, Clarke, Dean, Barbet, Bidwell, McCormack, Yennaris, Woods, Saunders (Canos 67’), Kerschbaumer (Hogan 76’), Vibe

Goliau: Hogan 83’, 86’

Cardiau Melyn: Saunders 22’, Button 95’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Peltier, Morrison, Connolly, Malone, Noone (Lawrence 75’), O’Keefe (Ameobi 88’), Ralls, Wittingham, Immers (Zohore 84’), Pilkington

Gôl: Zohore 89’

Cardiau Melyn: Connolly 25’, Noone 61’

.

Torf: 8,363