Casnewydd 1–1 Rhydychen                                                           

Cafodd Casnewydd bwynt gwerthfawr yn eu brwydr i aros yn yr Ail Adran wrth iddynt groesawu Rhydychen i Rodney Parade nos Fawrth.

Maent fwy neu lai yn ddiogel wedi i’r gêm gyfartal gôl yr un eu rhoi naw pwynt yn glir o safleoedd y gwymp gyda thair gêm ar ôl.

Tri munud ar ddeg yn unig a oedd ar y cloc pan rwydodd Jordan Bowery i roi’r tîm a ddechreuodd y gêm yn ail yn y tabl ar y blaen.

Unionodd Casnewydd o fewn munud serch hynny wrth i Medy Elito sgorio o bellter.

Rheolodd Rhydychen gyfnodau helaeth o’r gêm wedi hynny ond gallai Mark Byrne fod wedi cipio’r tri phwynt i Gasnewydd yn yr ail hanner pan darodd ei ergyd wych o dri deg llath yn erbyn y postyn.

Bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt yn unig yn y diwedd felly ond mae hynny mwy neu lai yn ddigon i’w cadw allan o’r ddau isaf am weddill y tymor a sicrhau eu dyfodol yn yr Ail Adran.

Cadwodd buddugoliaeth Caerefrog yn erbyn Portsmouth eu gobeithion main hwy yn fyw tan y penwythnos o leiaf, ond mae naw pwynt yn gwahanu’r ddau dîm gyda dim ond tair gêm ar ôl. Mae gwahaniaeth goliau Casnewydd hefyd un gôl ar ddeg yn well na Chaerefrog.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Hughes, Jones, Davies, Holmes, Klukowski (O’Sullivan 20’), Byrne, Elito, Barrow, Boden

Gôl: Elito 14’

Cardiau Melyn: Holmes 52’, O’Sullivan 68’

.

Rhydychen

Tîm: Buchen, Kenny, Dunkley, Wright, Evans (Ruffels 45’), Bowery (Waring 78’), Sercombe, Lundstram (Ashby 61’), Maguire, Hylton, Roberts

Gôl: Bowery 13’

.

Torf: 2,847