Gleision 28–8 Dreigiau Casnewydd Gwent
Y Gleision aeth â hi wrth i’r Dreigiau ymweld â Pharc yr Arfau ar gyfer gêm ddarbi yn y Guinness Pro12 brynhawn Sul.
Mae’r fuddugoliaeth yn cadw gobeithion y tîm o’r brifddinas o chwarae yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf yn fyw o hyd.
Hanner Cyntaf
Y Dreigiau a gafodd y gorau o’r munudau agoriadol ond y Gleision a aeth ar y blaen gyda chais cyntaf y gêm wedi wyth munud, Josh Turnbull hyrddio drosodd yn y gornel chwith yn dilyn cic rydd gyflym am drosedd yn y sgrym.
Methodd Gareth Anscombe y trosiad ond llwyddodd gyda chic gosb o flaen y pyst bum munud yn ddiweddarach, 8-0 y sgôr o blaid y tîm cartref wedi chwarter awr.
Cafodd yr ymwelwyr gyfle gwych i daro nôl yn fuan wedi hynny ond ceisiodd Hallam Amos fynd ei hun pan ddylai fod wedi pasio i Carl Meyer. Bu rhaid iddynt yn hytrach fodloni ar dri phwynt o droed Dorian Jones fel gwobr am gyfnod da o bwyso yn hanner y Gleision.
Roedd y bwlch yn ôl i wyth pwynt ddeg munud cyn yr egwyl diolch i gic gosb arall gan Anscombe ond cafwyd ymateb cryf gan y Dreigiau gyda chais i Sarel Pretorius. Enillodd Amos dir da gyda rhediad gwych cyn i’r mewnwr dirio yn dilyn sgarmes symudol effeithiol.
Wnaeth yr hanner ddim gorffen cystal i’r Dreigiau a Pretorius serch hynny. Anfonwyd y gŵr o Dde Affrica i’r gell gosb am daro’r bêl ymlaen yn fwriadol ac yn ei absenoldeb fe sgoriodd y Gleision gais arall. Ciciodd Anscombe yn bêl yn gelfydd dros yr amddiffyn cyn i Ray Lee-Lo ei chasglu a sgorio o dan y pyst, 18-8 y sgôr wrth droi wedi trosiad Anscombe.
Ail Hanner
Cic gosb o droed Anscombe a oedd pwyntiau cyntaf yr ail hanner wrth i’r maswr ymestyn y fantais i dri phwynt ar ddeg ddeuddeg munud wedi’r ail ddechrau.
Ceisiodd y ddau dîm redeg y bêl fwy wedi hynny, y Dreigiau yn ceisio dod yn ôl i’r gêm a’r Gleision a’u golygon ar bwynt bonws.
Digon di-fin a oedd yr olwyr ar y ddwy ochr serch hynny a bu rhaid aros tan funud olaf yr wyth deg am y sgôr nesaf pan yr agorodd amddiffyn y Dreigiau fel y môr coch i ganiatáu Anscombe i loncian drosodd o dan y pyst.
Doedd dim amser ar ôl i ail ddechrau felly bu rhaid i’r tîm cartref fodloni ar fuddugoliaeth yn unig, heb bwynt bonws, 28-8 y sgôr terfynol.
Mae buddugoliaeth y Gleision, ynghyd â cholledion i Munster, Caeredin a’r Scarlets y penwythnos hwn, yn cadw eu gobeithion o orffen yn y chwech uchaf yn fyw. Maent yn codi nôl dros y Gweilch i’r wythfed safle gyda dwy gêm i fynd. Mae’r Dreigiau ar y llaw arall yn aros yn ddegfed.
.
Gleision
Ceisiau: Josh Turnbull 8’, Ray Lee-Lo 40’, Gareth Anscombe 80’
Trosiadau: Gareth Anscombe 40’, 80’
Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 13’, 29’, 52’
.
Dreigiau
Cais: Sarel Pretorius 33’
Cic Gosb: Dorian Jones 19’
Cerdyn Melyn: Sarel Pretorius 39’
.
Torf: 8,203