Dyfodol Cuthbert gyda'r Gleision yn aneglur ar hyn o bryd
Fe fydd asgellwr Cymru, Alex Cuthbert yn colli’r daith i Seland Newydd ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ben-glin.

Roedd Cuthbert eisoes wedi anafu ei sawdl.

Ond mae rhanbarth y Gleision wedi dweud na fydd Cuthbert ar gael am hyd at 12 wythnos yn dilyn y llawdriniaeth yn Sweden.

Daw cytundeb Cuthbert gyda’i ranbarth i ben ar ddiwedd y tymor.