Luke Rowe yn bumed ar ddiwedd y cymal cyntaf
Mae’r seiclwr o Gymru, Luke Rowe yn gobeithio am ddiwrnod gwell ar ail ddiwrnod ras dridiau De Panne yn Fflandrys ar ôl gorffen y diwrnod cyntaf yn y pumed safle.
Roedd Rowe ymhlith y pac oedd yn arwain y ras ddydd Mawrth tan iddo gael pynjar oddeutu 30km o’r llinell derfyn wrth ddringo’r Muur van Gerraardsbergen.
Yn y pen draw, roedd Rowe 29 eiliad y tu ôl i’r enillydd Alexander Kristoff o dîm Katusha ar ddiwedd y cymal cyntaf.
Alexey Lutsenko oedd yn ail, a Lieuwe Westra yn drydydd.
Dywedodd Rowe wrth wefan teamsky.com ei fod yn “siomedig”.
Paris-Roubaix
Er y siom yn Fflandrys, mae Rowe yn barod i gyd-arwain Team Sky gydag Ian Stannard pan fydd ras Paris-Roubaix yn dechrau ar Ebrill 10.
Gorffennodd Rowe yn bedwerydd yn yr Omloop Het Nieuwsblad fis diwethaf ac fe orffennodd yn gryf yn y Ghent-Wevelgem ddydd Sul.
Dywedodd Rowe wrth gylchgrawn Cycling Weekly: “Rwy’n teimlo’n fwy hyderus, ac yn y peloton, lle’r ro’n i’n dal ymlaen wrth ddringo, rwy yn ei chanol hi.
“Wrth symud ymlaen i Roubaix, rwy’n gobeithio mynd i mewn fel cyd-arweinydd gydag Ian Stannard.”
Gorffennodd Rowe yn wythfed yn Roubaix y llynedd, y safle uchaf i unrhyw un o aelodau Team Sky.
Ychwanegodd Rowe: “Bydda i’n hyderus dros yr wythnosau i ddod. Rwy yno i sefydlu’r cyfan i’r bois.
“Beth bynnag maen nhw am i fi ei wneud, fe fydda i’n ei wneud e.
“Mae gyda ni fois all ennill y ras.”
Fe fydd Rowe hefyd yn cystadlu yn y Scheldeprijs cyn mynd i gystadlu yn y Paris-Roubaix.