Y blaenasgellwr yn gobeithio bod yn holliach ar gyfer taith Cymru i Seland Newydd
Fe allai blaenasgellwr y Gweilch a Chymru, Justin Tipuric golli gweddill y tymor ar ôl anafu ei ben yn ystod gornest Cymru yn erbyn Yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Dydy Tipuric ddim wedi bod yn ymarfer gyda’i ranbarth ers y digwyddiad, ac felly dydy e ddim wedi gallu dilyn y protocol ar gyfer dychwelyd i’r cae.

Cafodd Tipuric ei ddewis ar gyfer buddugoliaeth Cymru dros Yr Eidal o 67-14 yn absenoldeb y capten Sam Warburton.

Mae gan y Gweilch bedair gêm yn weddill yn y PRO12, gan gynnwys y gêm ddarbi yn erbyn y Dreigiau nos Wener.

Er bod Tipuric yn debygol o golli’r pedair gêm, mae yntau a hyfforddwr Cymru, Warren Gatland yn obeithiol y bydd yn holliach ar gyfer y daith i Seland Newydd dros yr haf.