Tîm Rygbi Merched Llanbed, oedd yn chwarae yn un o'r gemau i nodi'r 150 mlwyddiant
Cafodd Llanbedr Pont Steffan brynhawn i’w gofio ddydd Mercher wrth i’r dref nodi 150 o flynyddoedd ers geni rygbi yng Nghymru.
Mae’r dref yn cael ei hystyried fel y man lle ddechreuodd y gêm yng Nghymru, gyda gornest hanesyddol rhwng Coleg Dewi Sant a Choleg Llanymddyfri yn 1866 ar gaeau’r brifysgol.
Cafodd cyfres o gemau rygbi eu chwarae ddoe rhwng y Drindod Dewi Sant a’r Welsh Academicals, a thimau merched y Drindod Dewi Sant a Thref Llanbed i nodi’r achlysur.
Chwaraewyr 1966
Bu gêm fawr yn 1966 i ddathlu canmlwyddiant y gamp yng Nghymru gyda rhai o chwaraewyr oes aur rygbi Cymru yno fel Barry John, Delme Thomas, a’r diweddar Carwyn James.
“Mae’n bleser bod yma, dwi ddim wedi bod nôl ers y gêm [yn 1966],” meddai Haydn Jenkins, cyn-chwaraewr i’r Scarlets a fu’n rhan o ddathliadau’r canmlwyddiant.
“Dw i’n cofio chwarae gyda rhai o chwaraewyr gorau Cymru ar yr adeg hynny, fel Carwyn James a Barry John.”
Bu’n chwarae hefyd yn erbyn timau rhyngwladol Fiji a Chanada gan “mwynhau pob munud” o’r gamp.
Llyfr ar yr hanes
Mae Selwyn Walters wedi ysgrifennu llyfr, ‘Fighting Parsons’, sy’n olrhain hanes cyflwyno rygbi yng Nghymru a’r gêm gyntaf honno nôl yn 1866.
Dyn o’r enw Rowland Williams gyflwynodd y gêm i Gymru ar ôl dod Lanbed yn 1850 o Gaergrawnt, lle ddysgodd e sut oedd pêl-droed yn cael ei chwarae dan reolau ysgol Rugby.
Selwyn Walters sydd yn rhoi’r cefndir wrth golwg360: