Gethin Jenkins
Mae’r Gleision wedi cadarnhau bod Gethin Jenkins wedi ymestyn ei gytundeb â’r rhanbarth am flwyddyn arall.

Fe fydd y prop profiadol, sydd i ffwrdd gyda charfan Chwe Gwlad Cymru ar hyn o bryd, yn aros ym Mharc yr Arfau nes 2017.

Mae’n golygu y bydd y chwaraewr 35 oed yn chwarae dros y rhanbarth am y 12fed tymor yn olynol, ac yntau bellach wedi cynrychioli’r Gleision 164 o weithiau.

Yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi bod yn gonglfaen ym mhac y tîm cenedlaethol hefyd, gan ennill 126 cap hyd yn hyn sydd yn record.

Cystadleuaeth

“Rydyn ni’n amlwg yn falch iawn bod Gethin wedi arwyddo cytundeb newydd i ymestyn ei yrfa gyda Gleision Caerdydd,” meddai prif hyfforddwr y rhanbarth Danny Wilson.

“Mae Gethin yn brop profiadol tu hwnt sydd yn mynnu’r safonau uchaf iddo fe a’r rheiny o’i gwmpas ac mae e wedi rhagori ar lefel rhanbarthol a rhyngwladol dros y ddegawd ddiwethaf.

“Fe fydd cystadleuaeth go iawn ar gyfer crys y prop pen rhydd yn ein carfan tymor nesaf gyda chwaraewyr fel Gethin a Rhys Gill.

“Bydd Gethin hefyd yn rôl fodel perffaith ac yn fentor i’r chwaraewyr ifanc talentog sydd yn ein carfan a’r rheiny sydd yn dod drwy’n system a’r rheiny ‘dyn ni’n meddwl fydd â dyfodol disglair gyda ni.”